21/11/2016

‘Mae cynllun y Llywodraeth ar gyfer cyfansoddiad pwerau ataliedig i Gymru yn sylfaenol ddiffygiol'. - Elystan Morgan

‘Mewn cymdeithas oleuedig mae system bwerau ataliedig yn dibynnu yn gyfan gwbl ar gyd-ymddiriedaeth a pharch...Os bydd y Senedd bresennol yn gwrthod derbyn hynny, yna mae geometreg foesol y sefyllfa yn cael ei effeithio’.

‘Cofiwn bob amser mae Cymru oedd trefedigaeth gyntaf Lloegr a bod pobl o hyd a fydde yn dymuno gweld hynny yn para hyd ddiwedd amser. Nid ydym wedi torri cwys newydd eto’.

Cyflwynodd Elystan Morgan welliant i Fil Cymru yng nghyswllt y penderfyniad i gadw tua 200 o bwerau yn ôl yn nwylo'r Llywodraeth Ganolog. Gofynnodd i’r Ysgrifennydd Gwladol i sefydlu gweithgor i adrodd i'r Senedd o fewn tair blynedd ar y cwestiwn o sut mae’r pwerau ac ataliwyd a’u cadwyd yn nwylo’r Llywodraeth ganolig yn gweithredu ym mhob achos.



Dyma ddetholiad o’i araith a hefyd datganiad a wnaethpwyd ganddo cyn y ddadl.

'Yn arferol byddwn yn neidio gyda llawenydd at y datblygiad hwn oherwydd mae'n gosod Cymru ar yr un sail gyfansoddiadol a’r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hefyd yn tacluso'r llawer iawn o'r hyn sydd yn awr mewn cyflwr o ddryswch. a ellir ei ddisgrifio megis confetti.

Ar ôl drosglwyddo pwerau bach dros gyfnod hir, ac sydd wedi dod o gannoedd o wahanol ffynonellau, yr ydych yn creu sefyllfa sydd bron yn gwarantu niwrosis cyfansoddiadol ar ran cenedlaethau lawer o gyfreithwyr Cymreig.

Byddai osgoi hynny yn hollol werth chweil.

Fodd bynnag, rwyf ymhell o fod yn fodlon ar y sefyllfa y credaf sydd yn ddiffygiol iawn yn (Bil Cymru) ac yn lasbrint fydd yn arwain at fethiant a thrychineb.

Mae'r ffaith bod tua 200 o bwerau wedi eu hatal o dan y Bil, a hefyd natur y pwerau eu hunain, yn gwneud y mater yn nonsens llwyr. Pethau dibwys sy’n yn ymwneud a materion bychain a thila (e.e.  trwyddedau alcohol, cwn peryglus, puteindra, casgliadau elusennol ac yn y blaen). Yn fy marn wrth eu cynnwys mae yn sarhad ar bobl Cymru.

Pan mae’r llywodraeth yn cynnig setliad, fel yr un y maent bellach yn ceisio ei wireddu mewn perthynas â Chymru yna mae rhaid cael cyd-ymddiriedaeth a rhyw ymdeimlad o gydbwysedd. ….. Os bydd y Senedd bresennol yn gwrthod derbyn hynny, yna mae geometreg foesol y sefyllfa yn cael ei effeithio.

Sut daeth hyn i fod? …….

Ceir hanes hir o ragfarn y gallech ei ddisgrifio fel iâ parhaol tuag at ddatganoli yng Nghymru.

Nid wyf yn credu bod unrhyw beth yn wahanol na hyn wedi cymeryd lle.

Aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, efallai yn rhy barchus, at amryw o’i gyd-aelodau yn y cabinet a gofyn y cwestiwn -

'pa faterion y dymunech eu hatal '?

 yr ateb unfrydol ydoedd –

‘pob peth ar wyneb daear boed mor fach a thila neu gwbl leol y gelyd meddwl amdano'.

Pam y fath agwedd?

Cofiwn bob amser mae Cymru oedd trefedigaeth cyntaf Lloegr a bod pobl o hyd a fydde yn dymuno gweld hynny yn para hyd ddiwedd amser. Nid ydym wedi torri cwys newydd eto.

Pan ydych yn ystyried bod rhai o'r pwerau a ataliwyd – mae yna ddwsinau sydd, yn fy marn i, yn gwbl hurt a allwch ddychmygu Swyddfa Drefedigaethol y Deyrnas Unedig tri ugain mlynedd yn ol,yn enwedig pan oedd Jim Griffiths yn bennaeth yr adran honno, yn meiddio ymddwyn fel hyn tuag unrhyw drefedigaeth Brydeinig yn y Caribi neu yn yr Afrig.

'Mae'r rhain yn bwerau y mynnaf ei chadw yn ôl?’

Yn syml ni allai hyn ddigwydd

Bydd rhaid aros am ychydig cyn cael ymateb Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’r syniad o weithgor i adrodd ar y sefyllfa .


Yn sicr fe fydd yn ddiddorol.