21/10/2016

Gwynoro ar Hawl i Holi yn Clwb Rygbi Crymych – Hydref 18 2016

Noson hwylus, cwestiynau pwrpasol, panelwyr siaradus! a chynulleidfa dda iawn.


Oedd y panelwyr yn cytuno, gan fod Dafydd Elis-Thomas wedi gadael Plaid Cymru, y dylid cynnal is-etholiad ar unwaith yn Nwyfor Meirionnydd?


Mae miloedd o wartheg yn cael eu difa bob blwyddyn oherwydd y diciau. A ydi’r panel yn credu bod y cynllun i reoli moch daear yn ddigon effeithiol?

Sut mae codi safon addysg yng Nghymru, os oes llai o arian ar gael i ysgolion?

Pa mor ffyddiog ydych chi fod gan y Llywodraeth Geidwadol gynllun pendant ar gyfer Brexit?

http://www.bbc.co.uk/programmes/b07zj9ks#play


Hyfryd oedd bod yng nghwmni Dewi Llwyd unwaith eto


15/10/2016

Gwynoro ar raglen John Walters - Radio Cymru - Gwleidyddiaeth Cymru

Trin a thrafod materion ynglyn a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn gyffredinol ar hyn o bryd

Gan gynnwys hefyd:


 










Oes  yna wrthblaid effeithiol yma yng Nghymru ac yn San Steffan

Perthynas y Blaid Lafur Brydeinig a’r blaid yng Nghymru

Pa mor effeithiol yw’r Cynulliad

Safon aelodau’r  Cynulliad /San Steffan yn cymharu a’i gilydd

Ydy gwleidyddiaeth y tir canol yn diflannu

Ydy mesur Cymru fel ag y mae,  yn fesur bydd yn gwneud gwahaniaeth

Y berthynas rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig 

Oes posiblrwydd y gwelwn y Deyrnas Unedig yn chwalu


Effaith Brexit ar Gymru

Linc:


07/10/2016

Elystan Morgan yn trafod blynyddoedd cynnar Plaid Cymru, dylanwad Gwynfor Evans a darlyth Saunders Lewis ar ‘Tynged yr Iaith’



Mae'r fideo yn cynnwys ychydig o atgofio'n Elystan am ei ddyddiau yn y Blaid.

Siarad am yr arweinyddion cynnar - D J Williams, Saunders Lewis ac yna Gwynfor Evans wrth gwrs.

Disgrifio'r fel oedd Gwynfor yn fwy o wleidydd na'r lleill.

Yn y Fideo mae'r berthynas agos a fu rhwng y ddau yn amlwg.
Pwysigrwydd darlyth Saunders Lewis - 'Tynged yr Iaith'

Cyfeirio at yr amser ymunodd a Llafur.

Trafod agwedd y mwyafrif o aelodau seneddol y Blaid Lafur yn y chwech a'r saith degau.

Yna i orffen atgofion o S.O.Davies AS Merthyr am amser hir.