01/08/2016

Tuag at ffederaliaeth a thu hwnt.


Traethawd gwadd gan Glyndwr Cennydd Jones

Mae Glyndwr ar hyn o bryd yn brif weithredwr i sefydliad ledled y DU, hefyd wedi dal swydd uwch gyda Bwrdd arholiadau rhyngwladol am dros un mlynedd ar ddeg. Safodd ddwywaith dros Blaid Cymru yn ystod yr amser pan oedd y blaid mewn clymblaid gyda Llafur yn y Cynulliad (2007 a 2010). Ysgrifennu yn bersonol y mae, ac mae heddiw yn eiriolwr dros fwy o gonsensws a chydweithredu trawsbleidiol yng Nghymru. 


Mae gan Gymru draddodiad o fod ar flaen y gad am newid gwleidyddol pan mae amgylchiadau economaidd a chymdeithasol yn galw am hynny. Fodd bynnag, mae’r syrthni a grëwyd gan y diffyg her a dadl yn y Cynulliad heddiw, heb sôn am natur fiwrocrataidd trafodion y Siambr a'r pwyllgorau, yn cael effaith andwyol ar ddatblygu entrepreneuriaeth ac arloesedd ar draws economi Cymru—gan roi baich ar ddarpariaeth gwasanaethau yn y sector cyhoeddus, gyda gormod o weinyddu yn arafu datblygiad busnesau preifat hefyd.
 
Mae'r rhain yn symptomau o sefydliad sydd yn wirioneddol ddihyder, gyda diffyg dylanwad a grym i gyfarwyddo, arwain ac ysbrydoli cenedl i gyflawni ei photensial economaidd a chymdeithasol sylweddol. Mae’r rheolaeth a’r dull cyfyngedig hwn o lywodraethu yng Nghymru—yn hytrach na grymuso yn strategol—yn annigonol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth ddemocrataidd effeithiol i gwrdd â dyheadau, anghenion a gwerthoedd ein cenedl yn gyd-destun datblygiadau'r Deyrnas Unedig (DU) heddiw. Cyd-destun sydd wedi ei wneud yn fwy cymhleth drwy ganlyniad y refferendwm diweddar ar yr Undeb Ewropeaidd (UE), yna llais cynyddol gryf yr Alban, a'r teimlad cyffredinol fod Llywodraethau olynol San Steffan, yn eu hawydd dealladwy i sicrhau pleidleisiau o'r ardaloedd mwy poblog gerllaw, wedi tueddu i esgeuluso anghenion cymunedau ymhellach i ffwrdd. Mae uchelgeisiau dilys o'r holl bobl sy'n byw yng Nghymru yn cael ei danseilio gan system sydd wedi dod yn fwyfwy fewnblyg—a effeithiwyd gan ystyriaethau tymor byr, yn enwedig o ran ei berthnasedd strwythurol i'r byd-eang fodern. Gallai un awgrymu na ddylai canlyniad y refferendwm UE yn Fehefin ddim wedi bod yn gymaint o syndod ac yr oedd i lawer.

Dros amser, mae’r buddsoddiant mewn gwasanaethau hanfodol fel meddygon, nyrsys, athrawon a'r heddlu wedi bod yn annigonol, a bellach yn ffynhonnell rhywfaint o bryder ymhlith y cyhoedd. Mae'r pwyslais cynyddol ar weinyddiaeth yn hytrach nag ansawdd y ddarpariaeth yn awgrymog o strwythur gwleidyddol sydd yn gwasanaethu ei hunan-parhad yn hytrach na datblygu dyheadau ac anghenion y boblogaeth. Yn wir, mae llawer o bobl yn teimlo bod eu barn bersonol ai anawsterau ddim yn cael ei chlywed neu hyd yn oed yn cael ei deall gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau—a allai esbonio paham mae pleidleisio mewn amryw o etholiadau yn isel.

Mae tryloywder y broses ddemocrataidd yn cael ei gwneud yn fwy cymhleth gan benodiadau anetholedig i rai safleoedd a ganddynt ddylanwad amlwg yng Nghymru, sy'n codi amheuon ynghylch arbenigedd, aliniad gwleidyddol ac addasrwydd y rhai sy'n dylanwadu ar bolisi a hefyd sicrhau darpariaeth effeithiol ar gyfer y gwasanaethau. Mae diffyg atebolrwydd etholiadol cynghorwyr arbennig a rolau tebyg yn arwain at ganlyniadau, drwy bwysau lobïwyr, i ddymuniadau corfforaethau mawr yn cael blaengaredd yn hytrach nag ystyriaeth gytbwys o safbwyntiau'r holl randdeiliaid—gan gynnwys anghenion busnesau bach a chanolig, cyfleoedd cyflogaeth ranbarthol ac effeithiau posibl ar yr amgylchedd.

Mae gan Lywodraeth gyfrifoldeb i amddiffyn cymdeithas, sicrhau bod y camau gweithredu a'r dewisiadau a wneir gan unigolion, cwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus yn ddim effeithio yn niweidiol ar ei bobl—boed hynny drwy ymddygiad troseddol, ecsbloetio, anghyfrifoldeb cyffredinol neu esgeulustod. Mae methiant canfydded pryderon teuluoedd a dioddefwyr oherwydd benderfyniadau seneddol wedi tanseilio gwead ymddiriedolaeth o fewn ein cymunedau. Yr ydym wedi gweld symiau mawr a sylweddol o arian cyhoeddus a gyfeirir tuag at sefydliadau cyfoethog ac sydd wedi arwain at galedi ariannol i lawer drwy arferion nas gwiriwyd—buddsoddiadau a oedd ei angen yn ddirfawr gan ein gwasanaethau brys, ysbytai ac ysgolion. Yn aml mae’r enghreifftiau hyn hefyd wedi datblygu heb gynnwys mesurau digonol i’w atal yn y dyfodol, a bellach sydd wedi arwain am fwy o graffu ar sut y gall strwythurau bonws arwain at arferion da a hefyd a ydy’r cwmnïau amlwladol yn talu eu cyfran deg o dreth y DU.

Mae agenda cymunedol sy'n canolbwyntio wrth ei wraidd ar anghenion pobl yn mynnu buddsoddiad mewn tai a gwasanaethau sy'n cefnogi lles pawb p'un a ydynt yn ifanc, yn hen neu'n agored i niwed; mewn addysg neu'n chwilio am waith; mewn iechyd da neu beidio; gennyt ddibynyddion neu yn ddigyswllt; yn cael eu cyflogi neu ddigyflog; a hefyd a ydynt eu geni yn yr ynysoedd hyn neu mewn mannau eraill. Drwy uchelgais a doniau'r bobl a wireddir twf y genedl, felly mae cyfrifoldeb cymdeithasol llywodraeth yn allweddol i hwyluso llwyddiantyn enwedig grymuso'r rheini sydd wedi bod yn gofalu am eraill neu'n ddi-waith i ddychwelyd i addysg a gwaith. Mae’r egwyddor o wladwriaeth dosturiol sydd yn sail i ddiogelwch ei boblogaeth o'r crud i'r bedd mor berthnasol heddiw nag y bu erioed, ond dylai ymdrechu i gael gwell ymatebolrwydd a chynaliadwyedd wrth gyflenwi o fewn cyfyngiadau ariannol modern.

Er mwyn cyflawni'r nodau hyn, rhaid i lywodraeth fod yn rymus i wneud penderfyniadau nad ydynt bob amser yn boblogaidd gyda'r etholwyr yn y tymor byr, ond byddant dros gyfnod hwy o fudd ac elw i gymdeithas. Gall hyn ymddangos yn groes i bob greddf wleidyddol gan fod y cylch di-baid o etholiadau 'y cyntaf i'r felin' yn annog pegynnu barn rhwng pleidiau gwleidyddol a hyrwyddo polisïau 'penawdau' ar unwaith. Gwelir hyn yn dod i'r amlwg yn rheolaidd mewn seneddau sydd yn gwbl anghynrychioliadol o'r boblogaeth gyfan. Felly mae diwygio etholiadol ar draws y DU yn hanfodol i fynd i'r afael â diffyg democrataidd ac i wella'r cydweithredu o fewn gwleidyddiaeth—hyrwyddo llywodraethu cyfrifol wedi ei wreiddio mewn ffyrdd mwy strategol. 

Mae’r pwynt hwn yn gwbl allweddol gan fod yr anawsterau economaidd a’r heriau cymdeithasol sy'n wynebu Cymru heddiw yn gyferbyniad sylweddol gyda rhai o ranbarthau'r DU yn gyffredinol. Yn sicr mae twf ar hyd coridor yr M4 wedi dod â manteision, ond mae wedi arwain at gord datblygu mewn rhai ardaloedd gan allgau yn gynyddol y cymunedau sydd eisoes yn ddifreintiedig mewn eraill. Mae llawer o'r gweddill o Gymru yn dioddef dirywiad economaidd, gan gynnwys cyflogau isel, tlodi ac allfudo pobl ifanc. Mae'r Genedl gyfan yn wynebu gostyngiadau mewn swyddi gweithgynhyrchu. Yn y cyfamser, mae polisau ariannol San Steffan wedi arwain at symudiad graddol o adnoddau i ffwrdd o Gymru. Mae hyn, ynghyd â chwymp y diwydiannau traddodiadol, dros amser wedi arwain at ein Cynnyrch Mewnwladol (GDP) i syrthio ar hol ffigwr cyfartaledd y DU. Mae cyfran y bobl hŷn hefyd wedi cynyddu gydag effaith amlwg ar ofynion ar gyfer gwasanaethau iechyd a cymdeithasol.

Ond mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dioddef effeithiau'r toriadau cyllidol ac mae morâl y staff wedi tanseilio drwy faich biwrocratiaeth. Mae gwahaniaethau artiffisial rhwng gofal nyrsio a gofal personol yn arbennig o niweidiol, fel y mae wedi gohirio ymyriad meddygol cynharach i atal afiechydon difri.  Mae hyn i gyd mewn gwlad sydd yn dioddef o rai o'r cyfrannau uchaf o glefyd y galon, problemau anadlu a mathau o ganser yn y byd gorllewinol, ac er gwaethaf y sefyllfa annioddefol hon mae gan Gymru, o bosibl, y capasiti cyfrannol lleiaf nag yn unrhyw ran o'r DU i drin a’r afiechydon hyn.

Gwaethygir sefyllfa hon gan y fformiwla Barnet, sydd heb gymryd i ystyriaeth fod poblogaeth Cymru'n heneiddio, y cynnydd mewn lefelau amddifadedd, a salwch hir sefydlog a achosir gan y gwymp diwydiannol mewn llawer o gymunedau. Nid yn unig y tlotaf yw aelodau gwaelaf yn y gymdeithas ond mae salwch ei hun yn eneradur allweddol i dlodi. Mae Shelter hefyd yn amlygu bod gormod o bobl yn byw mewn tai o gyflwr annerbyniol gyda phroblemau yn gynnwys diffyg llety cymdeithasol, ôl-groniad o waith atgyweirio, dim digon o 'adeiladau newydd' a phrisiau chwyddedig.

Bellach nid yw'n ddigon da i barhau i bapuro dros y craciau gan ddefnyddio’r trefniadau deddfwriaethol ac offerynnol traddodiadol. Mae'n angenrheidiol i sefyll yn ôl ac arddel barn wrthrychol, realistig o'r heriau sy'n wynebu Cymru heddiw o safbwynt byd-eang ehangach a chyda amserlenni hwy mewn cof. Mae hyn yn hanfodol ar ôl canlyniad y refferendwm diweddar i adael yr UE gan fod Cymru ar ei hennill tua £245m yn flynyddol o’r cyllid Ewropeaidd. Mae heriau sylweddol hyn yn gofyn am ymatebion a ddyfeisiwyd gan y rhai sydd agosaf atynt ac sydd yn ddeall yn well eu heffaith ar ein dinasoedd, ein trefi a'n cymunedau gwledig—ac y sydd mewn sefyllfa fwy pwrpasol i adeiladu’r cysylltiadau angenrheidiol a’r perthnasoedd ar draws llywodraeth a diwydiant.

I gario Cymru ymlaen i'r oes fodern mae angen sefydlu o fewn y pum mlynedd nesaf strwythur ffederal ar gyfer y DU ac sydd yn hanfodol ar gyfer cryfhau ein heconomi a'n cymdeithas gan wella atebolrwydd, llywodraethu a thryloyw—ac, yr un mor bwysig, i harneisio doniau creadigol a chadarn i sicrhau atebion parhaus sy’n angenrheidiol i fynd i'r afael â gwendidau. Mae cynllunio strategol ar lefel genedlaethol Llywodraeth Cymru yn hanfodol i hyrwyddo cynaliadwyedd ar y naill law ac i alluogi ranbartholi ar y llall. Rhaid i'n cymunedau dyfu ac arallgyfeirio os ydynt am ffynnu. Mae'n annoeth bod cyfran fawr o gaffael cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei wario y tu allan i'n hardaloedd a rhanbarthau. Heb gwestiwn mae yna botensial i harneisio'r gwariant hwn o fewn ein cymunedau er mwyn i roi hwb i'r economi. Yn wir, mae angen datblygu strategaethau sy'n trin ardaloedd trefol a gwledig cyfagos fel unedau integredig drwy fentrau sy’n cael eu hannog yn ganolog ond a weithredir yn rhanbarthol.

Fel model damcaniaethol, fedrir i Lywodraeth Cymru, sydd wedi sefydlu fel rhan o strwythur ffederal ar gyfer y DU, cael ei gefnogi gan bum awdurdod rhanbarthol sy'n rhannol adlewyrchu cyfansoddiad y seddi rhanbarthol y Cynulliad presennol, ac a gyfansoddwyd gan gyfuno awdurdodau prif ardaloedd/unedau llywodraeth leol. Byddai awdurdodau rhanbarthol hyn yn ategu’r mentrau presennol a gorffennol i ddatblygu cyfleoedd i gydweithio ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, a sicrhau gwell darpariaeth gwasanaeth a manteision maint economaidd. Drwy weinyddu polisïau Llywodraeth Cymru, byddai’r cyrff rhanbarthol hyn yn ymgymryd â chyfrifoldebau'r partneriaethau awdurdod lleol presennol; byrddau iechyd; awdurdodau heddlu, tân ac achub; yn ogystal â chonsortia ar gyfer addysg, gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth a ffyrdd. Byddai strwythur o'r fath yn darparu:
 
·         Eglurder a sefydlogrwydd i gyfarwyddo a hwyluso cynllunio  a darpariaeth tymor hir
·         Gwell atebolrwydd ar gyfer cyflawni canlyniadau a rennir ym mhob ardal ddaearyddol
·         Gwell llywodraethu rhwng llywodraeth ganolog, partneriaid rhanbarthol a lleol
·         Gwell effeithlonrwydd ac integreiddio yn y cydgyfeirio o dan gontract a threfniadau gweithredol gyda phartneriaid allweddol—yn hwyluso cysylltiadau gweithio strategol dros amser
·         Mwy o gapasiti.

Rôl y llywodraeth ffederal ganolog yn Llundain fydda i gadw rheolaeth dros amddiffyn, diplomyddiaeth ryngwladol a'r hawl i lofnodi cytuniadau rhwymol o fewn terfynau cyfansoddiad diffiniedig. Byddai hefyd yn cynnal cyfrifoldeb cyffredinol ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb yn rhannu buddsoddiad llinell sylfaen, yn arbennig mewn perthynas ag ailddosbarthu cyfran o ffyniant ar y cyd a gynhyrchir drwy'r brifddinas ffederal i'r cenhedloedd.

Ym mis Ebrill 2016, cyhoeddodd Canolfan Llywodraethant Gymru ym Mhrifysgol Caerdydd ei adroddiad ar Refeniw a Gwariant y Llywodraeth a nododd fod cyfanswm refeniw sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer 2014-15 yn £23.3 biliwn—tua 3.6% o'r cyfanswm refeniw'r DU o £648.8 biliwn. Y ffynhonnell fwyaf o refeniw Cymru oedd treth ar werth, yna dilynwyd gan dreth incwm a chyfraniadau yswiriant gwladol. Mae’r cyfansoddiad hwn yn cyferbynnu yn sylweddol gyda ffigurau’r DU gyfan le'r oedd trethi uniongyrchol fel treth incwm a threth gorfforaeth yn gyfran mwy. Roedd yr adroddiad hefyd yn amcangyfrif gwariant a reolir yng Nghymru ar gyfer yr un cyfnod fel £38 biliwn—tua 5.2% o gyfanswm gwariant y DU o £737.1 biliwn. Diogelwch cymdeithasol oedd yn cyfrif am y rhan fwyaf o'r gwariant yng Nghymru, gan gynnwys taliadau nawdd cymdeithasol a phensiynau ac ati, yna iechyd ac addysg. Roedd Llywodraeth bresennol y Cynulliad yng Nghaerdydd a’r awdurdodau lleol yn gyfrifol am 53% o'r cyfanswm hwn, gyda'r gweddill o’r gwariant yn priodoli i adrannau Llywodraeth y DU. Felly, mae mwy o ddatganoli cyllidol yn cyflwyno risgiau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Yn y tymor canolig i'r amser hir, mae llawer yn dibynnu ar sut fydd Llywodraeth Cymru a'r cyhoedd yn ymateb i fwy o bwerau ariannol, tra erys cwestiynau ar sut y dylid cefnogi y dadfachet yn ystod y newid—p'un ai drwy addasu'r grant bloc Cymru gan Drysorlys ei Mawrhydi a/neu fenthyca.

Beth bynnag fydd y dull neu'r fethodoleg, mae’n hanfodol fod Cymru yn symud ymlaen gyda hyder a gweledigaeth newydd. Dim cario beichiau'r gorffennol—yn enwedig bagiau o natur pleidiau gwleidyddol—ond yn ceisio ffurfio consensws cyffredinol ar draws gwleidyddion i weithredu yn gywir a gyda doethineb gan gofio'r gwersi gorffennol a ddysgwyd. Dim byth gogwyddo i'r chwith neu dde o'r llwyfan polisi tybiannol damcaniaethol, ar fater o egwyddor rhai hanesyddol neu gamddehongli, ond dyfeisio atebion uchelgeisiol a chynaliadwy sy'n briodol i'r heriau modern sy'n wynebu pob portffolio llywodraethol fel y'i cyflwynir yng nghyd-destun Cymru heddiw. Yn wir i lafurio gyda'r unig nod o greu dyfodol diogel a llwyddiannus i bawb sy'n byw o fewn ein cenedl.

Mae sectorau sydd â photensial twf mewn angen cymorth gan gynnwys, er enghraifft, technoleg, twristiaeth ac ynni adnewyddadwy ble y mae gan Gymru fantais ddaearyddol. Bydd y buddsoddiad hwn a ddylesir ei dargedu, ynghyd â gwell cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd, yn helpu i lywio Cymru tuag at well cydlyniad cymdeithasol a chadernid economaidd. Ac ers y mae busnesau bach yn cynnwys y mwyafrif helaeth o'r holl fusnesau yng Nghymru, rhaid i ein strategaeth marchnad lafur rhoi sylw i anghenion entrepreneuriaid a hyrwyddo ymgysylltiad cyflogwyr wrth gynllunio hyfforddiant galwedigaethol ar draws addysg uwch a phellach. Yn ei dro, bydd hyn yn hwyluso cyfleoedd dilyniant cryfach ar gyfer datblygu gyrfa mewn diwydiant.

Mae addysg yn creu gwell dyfodol. Mae'n annog pobl i ddeall eu hunain a'u cymunedau gan gynnwys diwylliant, hanes, ieithoedd, rhagolygon gyrfa a pherthnasoedd. Dylai ein cwricwlwm rhoi pwyslais ar faterion allweddol byd-eang, sgiliau trosglwyddadwy, arbenigedd cyflogadwyedd a phwnc, yn ogystal â dinasyddiaeth Gymreig a Phrydeinig. A gan fod y byd modern yn cael ei datblygu'n gyflym a pharhaus, rhaid darparu’r agweddau amrywiol hyn o fewn ethos cryf o ddysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol parhaus os ydym i lwyddo i aros un cam ar y blaen i'n cystadleuwyr rhyngwladol.

Mae'r weledigaeth hon yn gymdeithas lle mae unigolion yn deall cyfrifoldebau i’w hunain ac eraill. Mae'n iawn i hyrwyddo dewis unigol, ond gadewch inni beidio ag anghofio'r cyfrifoldeb y Llywodraeth i sicrhau bod y dewisiadau hyn yn rhai gwybodus a ddim yn effeithio'n negyddol ar y gymdeithas gyfan. Byddai Llywodraeth sydd wedi'u grymuso gydag awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yng Nghymru, fel rhan o strwythur ffederal ar gyfer y DU, mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn fwy dychmygus yn ei ymdrechion i atal troseddu, gwella'r cyfraddau collfarnu a diwygio troseddwyr wrth roi mwy o bwys ar anghenion dioddefwyr a'u teuluoedd.

Felly, rhaid i’r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru sefydlu mwy o gonsensws tra i gyfarwyddo a symud tuag at berthynas gyfansoddiadol newydd o fewn yr ynysoedd hyn—yn rhoi blaenoriaeth i werthoedd pwysig 'gofal' a 'cyfle i bawb', sy'n ymgorffori ein cymdeithas. Yn wir gonsensws sy'n ysbrydoli ac yn sail i weledigaeth sy’n:

·      ymrwymo'n gadarn i fod yn llais clir ar gyfer holl bobl Cymru, gan ddelio yn uniongyrchol a’r amddifadedd a diffyg cyfleoedd o fewn rhai o'n cymunedau
·      addo lleihau biwrocratiaeth ar draws pob lefel o lywodraeth ac i sicrhau y gwerir arian cyhoeddus lle mae ei angen fwyaf—yn ein cymorthfeydd/ysbytai, ysgolion/colegau, yr heddlu a gwasanaethau brys
·      gweithio'n ddiflino i gefnogi datblygiad a thwf ar draws y diwydiannau allweddol a'r sector busnes preifat—gan felly ysgogi rhagolygon swyddi
·      yn eiriolwyr cadarn o ddull weithredu polisi a chynllunio llywodraeth sydd yn gynaliadwy a realistig mewn natur—un sy'n cydnabod ein hadnoddau cyfyngedig ac yn rhoi sylw i'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a thai fel mater o flaenoriaeth
·      credu'n angerddol mewn diwygio etholiadol a llywodraethu atebol ar gyfer Cymru, grymuso pawb sy'n byw o fewn ein cenedl i lunio dyfodol gyda hyder ac uchelgais.

Mae pwyslais hanesyddol Cymru ar gydraddoldeb a thegwch yn wedi rhoi genedigaeth i lawer o wleidyddion, meddylwyr ac awduron nodedig megis yn Lloegr, Iwerddon a'r Alban. Dyma draddodiad y dylem fod yn falch ohono. Yn y cyd-destun ehangach o Ewrop, ac i adfer y cenhedloedd hynny dros y degawdau diwethaf sydd wedi ei llyncu gan strwythurau gwleidyddol y gorffennol, mae angen consensws i sicrhau setliad ffederal i Gymru fel rhan o'r DU o fewn y pum mlynedd nesaf—mae yn gam angenrheidiol a naturiol ar hyn o bryd. Drwy roi'r conglfeini economaidd a chymdeithasol hyn yn ei lle y gall Cymru freuddwydio am ddyfodol llewyrchus yn ariannol ac yn ysbrydol o ddyhead hyd yn oed yn fwy ...

I aralleirio Bernard Chartres 'ydym yn sefyll ar ysgwyddau cewri.' Gadewch inni wneud yn siŵr y gall cenedlaethau'r dyfodol o bobl ddweud hynny eu hunain o ran ein hymdrechion i greu Cymru fodern.

    Ymddangosodd traethawd hwn gyntaf ar http://gwynorojones.blogspot.co.uk/2016/07/towards-federalism-and-beyond.html  yn Saesneg ar 30ain Gorffennaf 2016.
    Twitter: @GlyndwrCJ