24/04/2016

Byddwch yn barod Pôl Piniwn allan cyn hir ar Etholiad i'r Senedd

Rhagwelaf symud ym marn pleidleiswyr

Ar y cyfan sylwedydd yn unig yr ydwyf o’r hyn sy'n digwydd yn yr ymgyrch i etholiadau’r Senedd.

Fodd bynnag gan ddefnyddio cymysgedd o teimladau, cadw llygad ar y materion allweddol sydd wedi dominyddu gwleidyddiaeth ers yr arolwg diwethaf ac yna gwylio arweinyddion y pleidiau a’u dadleuon ar y teledu credaf fydd yna symudiad yn farn pleidleiswyr.

Dau fater allweddol sydd yn bennaf wedi cael y penawdau mwyaf amlwg sef dyfodol y diwydiant dur a refferendwm yr EU. Mae yna faterion eraill wrth gwrs sydd wedi cael sylw blaenllaw megis y gwasanaeth iechyd, safonau mewn addysg a 'bwerdy' Gogledd Cymru.

Credaf fod y ddau fater cyntaf yn effeithio mwy ar farn pleidleiswyr a'r ddau hyn o bosib sydd wedi difrodi'r Ceidwadwyr, ond i ba raddau y mae Llafur yn mynd i elwa o'r hyn oll nid wyf sicr. Mae'n bosibl y gallai Plaid Cymru hefyd casglu cefnogaeth ychwanegol dros fater yr argyfwng dur.

Y camgymeriad mwyaf a wnaed gan y Torïaid oedd gan Andrew RT Davies dros ei gefnogaeth o blaid gadael yr UE. Gwnes sylw ar y pryd yn fy Mlog 'O Andrew beth rydych wedi'i wneud'?. Mae'n bosib fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi elwa o hyn oll, yn enwedig yng Nghanolbarth Cymru.


Mae UKIP yn parhau i gael problemau gyda'r dadleuon parhaus dros y dewisiad o ymgeiswyr a hefyd rhai anghytundebau sydd wedi derbyn proffil lled uchel gan y cyfryngau. Felly credaf bydd eu cefnogaeth wedi gostwng eto megis y pôl piniwn wythnosau yn ôl.

I droi at gyfraniad yr arweinwyr ar y teledu – yn union fel digwyddodd yn hustyngau adeg yr Etholiad Cyffredinol yn 2015 – yn ddi-os y tair menyw sy’n arweinwyr pleidiau yd yn hyn sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf tarawdiadol. Mae arweinydd y Blaid Werdd yn gwneud argraff dda a bu perfformiadau Kirsty Williams drwyddi draw yn ychydig gwell na Leanne Wood. Yn anffodus, y dyddiau hyn, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dioddef o ddiffyg dyfnder ehangach tra bod gan Leanne y fantais o dîm ymgyrchu cryfach ledled Cymru. Hefyd wrth gwrs wrth wylio rhai rhaglenni S4C mae Plaid Cymru yn dominyddu llawer dros y pleidiau eraill – ond sut a fydd hyn oll o fudd iddynt ni wŷr neb. 

Y seddi diddorol mae'n debyg fydd Caerdydd Canolog a Gogledd, Llanelli ac efallai Ceredigion. Yr wyf wedi dilyn ymgyrch Liz Evans ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn sicr mae yn ymddangos ei fod yn cael effaith.

Ar ôl dweud hynny bydd y bobl sydd yn dilyn fy Mlog wedi nodi nad yr effaith fwyaf ar farn pleidleiswyr yng Nghymru yw’r cyfryngau sy'n deillio o Lundain. Felly mae'r agwedd honno angen ei chadw mewn cof bob amser.

Felly fy rhagfynegiad ar gyfer y pôl yfory yw bod pleidleiswyr yn symud!

Mae Llafur yn dal yn lled statig er y dylai fod yn gweld cynnydd; bydd y Ceidwadwyr wedi gostwng ymhellach a hefyd UKIP; Bydd Plaid Cymru yn ail clir; gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion yn gweld cynnydd yn eu cefnogaeth. 


Amser a ddengys!