03/02/2016

Lloyd George y Prif Weinidog cyntaf o gefndir dosbarth gweithiol a’r unig Prif Weinidog erioed i fedru siarad Cymraeg.

Yn ei anterth oedd ei rym, ei ddylanwad, a'i fenter yn ddihafal yn y tir. Ef oedd Pencampwr y gwan a'r tlawd.

‘He was the greatest Welshman which that unconquerable race has produced since the age of the Tudors’ - Winston Churchill

Fe anwyd David Lloyd George 153 flynyddoedd yn ôl bellach a cyn hir bydd 71 mlynedd wedi mynd heibio ers ei farwolaeth. Ers y cychwyn mae wedi bod yn un o fy arwyr gwleidyddol ac yn ddiweddar ‘rwyf wedi bod ar y cyfryngau cymdeithasol i atgoffa pobl amdano. 

Image result for david lloyd georgeAr yr un pryd ag yr oeddwn wrthi'n paratoi fy mlog Saesneg cysylltodd rywun a mi o ardal Llanystumdwy i fy hysbysu fod yr amgueddfa wych a tharawiadol yn y pentref i goffáu bywyd a chyflawniadau Lloyd George  ar restr hir iawn o opsiynau i'w hystyried fel toriadau gan Gyngor Sir Gwynedd. 

Nodwyd gan y  Cyngor:- 

‘Sefydlwyd  Amgueddfa Lloyd George yn 1947 ac fe‘i redwyd gan Ymddiriedolwyr hyd nes  iddi gael ei throsglwyddo i'r Cyngor yn 1987. Mae'r Cyngor bellach yn rhedeg yr amgueddfa a hefyd  Highgate, sef cartref plentyndod David Lloyd George, sydd wedi'i hadfer i ddangos i bobl sut brofiad oedd hi pan oedd yn weithdy  cobler yn yr 1860au.

Mae'r amgueddfa yn un o'r unig ddwy amgueddfa ledled Prydain yn ymroddedig i gyn Prif Weinidog ac yn denu rhwng 6,000 a 7,000 o ymwelwyr y flwyddyn’. 

Bellach mae Cyngor Gwynedd yn gorfod gwneud toriadau o tua £50 miliwn yng nghyllid yr awdurdod erbyn 2017/18. Mewn dogfen ymgynghori a fu ar gael i drethdalwyr gofynnwyd am eu barn ynglŷn â’r llu o doriadau a gynigwyd gerbron ac fe dderbyniodd yr awdurdod tua 2000 o sylwadau.

Amcan a gyfrifir byddai cau'r amgueddfa yn achub £27,000 y flwyddyn ond ar y llaw arall yn ôl y Cyngor Sir byddai yn golygu:

• llai o gyfleoedd i hyrwyddo hanes a dylanwad David Lloyd George ar Brydain a'r byd yn ystod cyfnod  y rhyfel byd cyntaf ac yn ei gyfnod fel Prif Weinidog;
• yn cael effaith ar economi'r ardal o ran twristiaeth, a hefyd fe
• amddifadu’r  ysgolion, colegau a chymdeithasau addysg a chyfleoedd ymchwil  o’r adnodd holl bwysig a hanesyddol sydd yn  atyniad gyda phroffil uchel.

Wrth gwrs mawr obeithiaf y bydd y lle hanesyddol hwn yn arbed y fwyell oherwydd mae yn rhan holl bwysig o dreftadaeth Cymru.

Image result for david lloyd george
Mae gennyf sawl atgof o ymweld â’r amgueddfa dros y blynyddoedd, a chofiaf un ymweliad yn arbennig yn Hydref 1985 i ddathlu lansiad Cymdeithas Lloyd George dan arweiniad Syr Winston Roddick.
Fe gynhaliwyd seremoni wrth y bedd sydd mewn man  tawel a heddychlon iawn a gyda ni oedd ei ferch Lady Olwen. 

Gwnaethpwyd ychydig o areithiau byr ac fe ganom Hen Wlad Fy Nhadau. I mi roedd yn brofiad ysbrydoledig.

Fel inni adael a’r fangre gofynnais i Lady Olwen beth fyddai ei thad wedi dweud wrth David Steel a David Owen a oedd oeddynt ar y pryd yn cael problemau cytuno dros bolisi amddiffyn Y Gynghrair. Ei hateb oedd byddai ef wedi dweud wrthynt ‘just get on with it’!

‘Roedd Lloyd George yn ddiwygiwr cymdeithasol ac fe gyflwynodd diwygiadau pan yn Ganghellor y Trysorlys sydd wedi elwa y rhan fwyaf o gymdeithas ers hynny. Diwygiadau fel y Ddeddf Pensiynau 1908 a Deddf Yswiriant Cenedlaethol 1911 ac yn wir fe ragflaenodd y wladwriaeth les.

Heb amheuaeth mae Lloyd George a Churchill yn gewri deublyg o hanes Prydain 20fed ganrif. Wrth gwrs oedd ganddynt eu gwahaniaethau. Ond erys y ffaith bod y berthynas rhwng y ddwy gawr fel yr honnodd Lloyd George yn 1938:

'the longest friendship in British politics'.

Yn wir, mae'n anodd meddwl am berthynas arall a ddaw yn agos.

Am bron i 40 mlynedd Lloyd George oedd yr unig berson y byddai Churchill yn gohirio’n gyson. Weithiau nid oedd yn hoffi darostwng i Lloyd George ac, mae'n debyg, yn aml ‘roedd yn ymledu'n wyllt ar Lloyd George tu ôl i'w gefn; ond roedd hefyd bob amser yn cydnabod rhagoriaeth y dyn hŷn.

Ar ôl cyfnod o flynyddoedd fynd heibio heb iddynt gyfarfod fe wnaethant ar un achlysur a dywedodd Churchill:

'Within five minutes the old relationship between us was completely re-established; the relationship between Master and Servant, and I was the Servant.'

Dyma ddarn o deyrnged gofiadwy Winston Churchill yn Nhŷ'r Cyffredin 28 Mawrth 1945 ar farwolaeth David Lloyd George - IARLL LLOYD-GEORGE DWYFOR, O.M.

‘When I first became Lloyd George's friend and active associate, now more than 40 years ago, this deep love of the people, the profound knowledge of their lives and of the undue and needless pressures under which they lived, impressed itself indelibly upon my mind.
Then there was his dauntless courage, his untiring energy, his oratory, persuasive and provocative. His swift, penetrating, comprehen
sive mind was always grasping at the root, or what he thought to be the root, of any question. His eye ranged ahead of the obvious. He was always hunting in the field beyond. I have often heard people come to him with a plan, and he would say "That is all right, but what happens when we get over the bridge? What do we do then?"

In his prime, his power, his influence, his initiative was unequalled in the land. He was the champion of the weak and the poor. These were great days. Nearly two generations have passed.

Most people are unconscious of how much their lives have been shaped by the laws for which Lloyd George was responsible. Health insurance and old age pensions were the first large-scale State-conscious efforts to set a balustrade along the crowded causeway of the people's life and, without pulling down the structures of society, to fasten a lid over the abyss into which vast numbers used to fall, generation after generation, uncared for and indeed unnoticed.

The stamps we lick, the roads we travel, the system of progressive taxation, the principal remedies that have yet been used against unemployment—all these to a very great extent were part not only of the mission but of the actual achievement of Lloyd George.

Now we move forward confidently into larger and more far-reaching applications of these ideas. I was his lieutenant in those bygone days, and shared in a minor way in the work. I have lived to see long strides taken, and being taken, and going to be taken, on this path of insurance by which the vultures of utter ruin are driven from the dwellings of the nations.

His long life was, from almost the beginning to almost the end, spent in political strife and controversy. He aroused intense and sometimes needless antagonisms. He had fierce and bitter quarrels at various times with all the parties. He faced undismayed the storms of criticism and hostility. In spite of all obstacles, including those he raised himself, he achieved his main purposes.

As a man of action, resource and creative energy he stood, when at his zenith, without a rival. His name is a household word throughout our Commonwealth of Nations.

He was the greatest Welshman which that unconquerable race has produced since the age of the Tudors.