01/02/2016

Gallaf glywed sŵn y ceffylau yn cael ei hiached i'r wagen

A fydd y partïon yn ennyn digon o ymddiriedaeth i rwymo eu hunain mewn i raglen ddiwygio a gytunwyd ganddynt cyn yr etholiad ac i'w galluogi i weithio gyda'i gilydd ar ôl yr etholiad?

Yr wyf wedi dadlau ers tua chwe mis dylai'r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn flaenllaw yn yr ymgyrch ar gyfer diwygio y cyfansoddiad a’r dull pleidleisio. Golyga hyn sefydlu confensiwn trawsbleidiol gyda’r nod i gytuno ar raglen ddiwygio flaengar erbyn 2018.
Felly yr wyf yn falch iawn bod yr SNP, y Gwyrddion a Plaid Cymru yn unedig i alw am pact etholiadol gyda Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol i gytuno ar newidiadau ysgubol i system bleidleisio ar gyfer etholiadau San Steffan.
Mewn llythyr a gyhoeddwyd ynYr Inde pendent’ mae arweinwyr y tair blaid yn galw am gytundeb ar ddiwygio etholiadol i'w cynnwys ym mhob maniffesto ar gyfer 2020.
Yn y llythyr mae’r arweinyddion yn croesawu'r trafodaethau yr ymddengys sydd yn digwydd rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Serch fy mod wedi darllen rhywle fod Tim Farron yn amheus fod hyn yn digwydd!.

Mae’r tri Aelod Seneddol wedi ysgrifennu:

"Drwy weithio gyda'n gilydd rydym yn credu mai'n bosibl i drawsnewid gwleidyddiaeth Prydain – ac y bydd system bleidleisio decach yn helpu i gyflawni Prydain decach. Hoffem weld Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r pleidiau a gynrychiolwn yn uno gyda'i gilydd yn yr etholiad cyffredinol nesaf gyda’r bwriad o gael maniffesto ar y cyd i gyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin. Byddai'n rhoi llais i bob pleidleiswyr mewn etholiadau yn y dyfodol ac yn rhoi mandad ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth yn gynnar."

Mae’r tri Aelod Seneddol yn addo gweithio gydag arweinwyr y pleidiau eraill "ynglŷn â sut y gellir cyflawni’r addewid hwn".
 Ond beth yw barn arweinwyr y pleidiau eraill?
Jeremy Corbyn
Mae yn cyfaddef ei fod yn "agored" i pact etholiadol gyda phleidiau eraill i ddiwygio y gyfundrefn etholiadol.
Pan ofynwyd  iddo a fyddai'n barod i siarad a’r Democratiaid Rhyddfrydol a'r pleidiau eraill am gytuno ar newidiadau yn y system bleidleisio, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur "gallai ddigwydd". Ond pan y pwyswyd ymhellach a oedd yn agored i’r syniad, ei ateb oedd: "wrth gwrs".
Tim Farron
Adroddir bod gymorthyddion i Tim yn trafod a AS Llafur - rhywun sydd yn gyfaill agos i   Corbyn - ac sy'n gweithredu fel cyfrwng rhwng y ddau arweinydd. .
Mae un o’r cymorthyddion yn dweud fod Tim:
"wedi dweud ers tro fod cyflwyno mesur cynrychiolaeth gyfeannol yn rhan allweddol o ail-lunio gwleidyddiaeth Prydain. Bydd ef yn gweithio gydag unrhyw un, yn holl bleidiau a dim, i gyflawni hynny."
Honni’r hefyd bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn  am wladweinydd henoed, sydd yn uchel ei barch yn y Blaid Lafur, i ymgymryd â rôl ffurfiol fel canolwr rhwng y partïon.
UKIP
Mae UKIP hefyd yn cefnogi diwygio etholiadol, ond yn annhebygol o ddod i gytundeb ffurfiol â Llafur neu'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Un ffigur uwch sydd dros y misoedd diwethaf wedi galw am yr angen o sefydlu cynghrair flaengar a Chonfensiwn Cyfansoddiadol trawsbleidiol yw David Owen. Tynwyd sylw at hyn ar y blwg hwn yr wythnos diwethaf ac ‘roedd yn cynnig syniadau adeiladol ynghylch y ffordd ymlaen.

Dywed David Owen:
'
Fe all Llafur ennill yr etholiad nesaf yn 2020 – ond dim ond drwy "cynghrair flaengar". Mae hyn yn galw am gyfaddawdu realistig gan Corbyn, Cynhadledd y Blaid, y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol a’r Blaid Seneddol. Mae'n golygu creu Confensiwn Cyfansoddiadol yn 2017 ochr yn ochr â'r SNP (y blaid fwyaf nesaf mwyaf tebygol), y Democratiaid Rhyddfrydol (os byddant yn newid eu polisi ar farchnad ym maes Iechyd), Plaid Cymru, y Blaid Werdd ac unrhyw Aelodau Seneddol o Ogledd Iwerddon. Drwy dutuno ar y diwygiadau yn eu gwahanol maniffestos gellid wedyn ddeddfu ar hyn yn sesiwn gyntaf y Senedd.newydd yn 2020'


Y cwestiwn bellach yw bydd y wagen yn rholio!

Yn y Blwg Saesneg::

Reflections on a chaotic and fragmented Union , its survival prospects - June 27 2015.

The Governance and the Voting System of the UK Union is Bad for democracy,bad for government and bad for the voters - Aug 20 2015