06/12/2015

Angen gwelliant sylweddol ar y gwasanaeth Addysg Yng Nghymru

Gallai safonau mewn perfformiad a darpariaeth addysg yng Nghymru fod yn well o lawer

Yn gyffredinol y dyddiau hyn pan yn ffurfio barn ynghylch perfformiad annerbyniol neu wael unrhyw sefydliad, corff cyhoeddus neu hyd yn oed unigolyn yr ymadrodd a ddefnyddir yw 'ddim yn addas i’r pwrpas‘. Heb gwestiwn mae hyn yn berthnasol bellach i’r Gweinidog Addysg Huw Lewis – ond ddof nol at y pwnc mewn post arall cyn bo hir.

Mae'n deg nodi bod arwyddion o welliant yn y ein hysgolion mewn materion megis presenoldeb, triwantiaeth, lles disgyblion, agweddau ar addysgu a dysgu, hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella a gostyngiad yn y gyfran o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg neu hyfforddiant mewn meysydd penodol.

Ond yn y maes allweddol sef y safonau mae yna le sylweddol i wella. Yn wir mae’r Gweinidog Addysg presennol a'i ragflaenydd yn cytuno â mi gydag un pwyntio at 'ddifaterwch' pan yn trafod canlyniadau PISA a’r llall yn nodi 'gwendidau systemig' yn y gwasanaeth addysg.

Tra yn edrych ar y pwyntiau allweddol a nodwyd gan Estyn yn yr adroddiad blynyddol diweddara mewn perthynas a’r ysgolion a arolygwyd, mae’n deg i nodi fod perfformiad yn erbyn nifer o ddangosyddion wedi gwella ‘ond yn raddol iawn’. Dangosyddion megis cyfraddau presenoldeb, triwantiaeth a y bwlch mewn perfformiad rhwng isgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion eraill yn lleihau.

Ond ar y cwestiwn mawr sut mae’r plant a’r ysgolion yn perfformio wrth edrych ar y  safonau mae yna bryderon yn dal i fod o hyd. Mae yna heriau pwysig yn parhau megis:
Gostyngiad mewn safonau yn yr ysgolion cynradd a arolygwyd a fod cyfran yr ysgolion cynradd â ' safonau 'da' neu 'ardderchog' wedi gostwng i 6 o bob 10. Felly mae 4 o bob 10 yn 'ddigonol' yn unig (mewn geiriau eraill ocê!). Y broblem ganolog oedd gwendid yn sgiliau rhifedd disgyblion a’r diffyg hyder y disgyblion o ran defnyddio’r medrau hyn mewn pynciau eraill, ond mae’r sefyllfa hyn wedi bod yn destun pryder ers blynyddoedd.

Dwed Estyn fod safonau mewn llythrennedd wedi gwella 'ychydig' mewn perthynas a medrau ysgrifennu y plant ond fod y gwelliant yn ‘fwy’ yn y Cyfnod Sylfaen nag yng nghyfnod allweddol 2 ( disgyblion oedran 7 -9/10 ). Mae’r ffaith olaf yn bryder parhaus.

Er bod y safonau mewn ysgolion uwchradd yn gwella i’w gymharu a ‘pherfformiad cymharol wan‘ y flwyddyn cynt, erys cryn ffordd i fynd. Dim ond 50% o'r ysgolion a arolygwyd oedd yn cyflawni safonau 'rhagorol neu dda'. Felly, mae yna llawer iawn ohonynt yn y blwch 'digonol' – yn amlwg, nid yw hynny'n ddigon da. Nodwyd bod angen cyffredinol i wella safonau mewn mathemateg a rhifedd, yn ogystal â darpariaeth ar gyfer y disgyblion mwy abl a dawnus.

Un ffaith sydd yn sefyll allan yn Adroddiad Blynyddol Estyn ac o bosib sydd yn crynhoi y sefyllfa sef ers 2010 mae yna nifer gynyddol o ysgolion ac angen monitro  pellach arnynt yn dilyn eu harolygiad ‘craidd’ cychwynnol. Dwed yr adroddiad fod y nifer o ysgolion sy’m mynd mewn i gategori ‘gweithgarwch dilynol’ wedi codi ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf. Dros bron yr ugain mlynedd ’roeddwn yn arolygu ’roedd ymroddiad, a phroffesiynoldeb staff ysgolion yn ddi gwestiwn ond yn amlwg mae angen mynd i’r afael a’r diffygion yn llawer mwy treiddgar a grymus.

Cyfeiriwyd hefyd at ddau agwedd oedd yn peri pryder sef y safonau mewn Cymraeg ail iaith ‘ddim yn gwella’ ac nid yw ysgolion yn asesu gwaith disgyblion ddigon cywir a cadarn. ‘Roedd y rhain yn faterion o bryder drwy gydol y blynyddoedd yr oeddwn yn  arolygwr, felly dim llawer wedi symud ymlaen.

Pan oeddwn yn arolygu ‘roedd yr adroddiadau byth a beunydd yn tynnu sylw fod angen ar yr ysgolion i wella cywirdeb a chysondeb gwaith asesu athrawon gan gynnwys yr angen i esbonio’n glir i ddisgyblion sut i wella eu gwaith. Un peth arall oedd yn amlwg yn gymharol amal pan wrth ein gwaith sef wrth edrych ar lyfrau’r disgyblion yn ystod arolygiadau ’roeddwn yn canfod fod diffyg cyfatebiaeth rhwng y lefelau Cwricwlwm Cenedlaethol a nodwyd gan yr athrawon ac ansawdd gwaith y disgyblion yn y dosbarth neu y llyfrau gwaith cartref.

Os ceir ddiffygion yn yr Asesu fe ganlyn diffygion mewn cyrraedd arfraniadau cywir sydd mor hanfodol nid yn unig i’r disgyblion a’r rhieni ond hefyd sydd yn codi cwestiynau am brosesau hunanarfarnu yr ysgol. Ymhellach nid oes gan arweinwyr ysgolion, gan gynnwys y llywodraethwyr, wybodaeth cywir am berfformiad y disgyblion ac felly ni allant farnu beth sydd yn gweithio’n dda er mwyn codi safonau a  pherfformiadau.

Nawr nid oes angen mynd ymhellach er mwyn dechrau deall pam mae Cymru mor isel  lawr y tabl gymhariaeth ryngwladol ar safonau addysg (PISA). Allan o 65 o wledydd mae y canlyniadau yn dangos yn y pynciau craidd ( Cymraeg/Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth) fod Cymru yn 43 at y tabl, Gogledd Iwerddon 33, Lloegr a'r Alban fwy neu lai yr un fath ar 25ain.  Wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn y proffesiwn addysg yn ceisio dweud bod cymariaethau o'r fath yn ddiystyr. Esgus ydy hynny ac mewn gwirionedd y maent yn arwyddocaol dros ben ac fe geir wendidau sylfaenol ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig.

Wrth orffen pan yn arolygu ‘roedd tua 70% o’r ysgolion bob amser yn cwyno am y diffyg cymorth a chanllawiau proffesiynol yr oeddent yn gael gan eu hawdurdodau addysg lleol. Roedd yn nodwedd gyffredin. Ond nid yw'n syndod oherwydd yn y blynyddoedd diwethaf mae 9 awdurdod lleol, ar adegau amrywiol, wedi cael eu gosod yn y categori mewn angen o 'mesurau arbennig' a hefyd bod angen cymorth sylweddol arnynt er mwyn sicrhau gwelliant.

Ymdrinais â rhai o'r materion hyn yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Y peth a roddodd boddhad imi oedd gwrando ar sawl un o'r cynrychiolwyr a siaradodd a oedd yn deall natur yr hyn sydd yn ddiffygiol yn system addysg Cymru. Yr oedd yn drafodaeth wybodus.

Dyma y cynnig polisi terfynol a cytunwyd arno ar ôl pasio sawl gwelliant:

Mae’r Gynhadledd yn nodi bod:
 1. Cymru wedi colli tir yn sylweddol yn erbyn gweddill y Deyrnas Unedig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, yn ôl rhestrau PISA gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd;
 2. Nid yw Llywodraeth Cymru’n pennu safonau gofynnol ar gyfer ysgolion yng Nghymru;
3. Prifathrawon ac athrawon i gyflawni’r canlyniadau gorau wrth roi hyblygrwydd a chefnogaeth iddynt, nid drwy’u llethu â mân-reolau gan lywodraeth ganol;
 4. Mae hi yn aml yn well gwella atebolrwydd a pherfformiad drwy reoli risg, yn hytrach na thrwy gynyddu rheolaeth;
5. Effaith bositif Premiwm Disgyblion Cymru, sydd, yn ôl dadansoddiad annibynnol, wedi arwain at “faint sylweddol o weithgaredd newydd” a anelir at gefnogi disgyblion difreintiedig.
 Mae’r Gynhadledd yn credu:
1. Bod yn rhaid inni fod yn blaid dros gyfleoedd, sy’n galluogi pobl ledled Cymru i wneud cynnydd yn eu bywydau.
2. Nad oes yna ddim yn flaengar ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus gwael, ac mae’n rhaid inni ganfod ffyrdd newydd ac arloesol o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n ochri â rhieni, disgyblion a chleifion.
3. Y dylid rhyddhau unigolion oddi wrth lywodraeth gyfyngol, a grymuso arweinwyr i arwain gan sicrhau bod safonau gofynnol yn cael eu cyrraedd a bod atebolrwydd yn gryf ac yn dryloyw.
4. Dylid rhoi’r ymreolaeth i brifathrawon wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eu disgyblion.
5. Mae gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr yn gwybod yn well na gwleidyddion beth ddylid ei gynnwys yng nghwricwlwm ysgolion a sut y dylid rheoli ysgolion.
 6. Ni ddylid rhedeg ysgolion er elw, na’u gweithredu gan gwmnïau preifat.
Mae’r Gynhadledd yn galw am:
1. cyflwyno monitro disgyblion unigol, ac ar gyfer ysgolion nad yn ategu datblygiad pob disgybl i gael eu gosod yn awtomatig mewn mesurau arbennig yn ddigonol.
2. Sicrhau bod plant yn cael y sylw unigol y mae arnynt ei angen drwy gyflwyno dosbarthiadau ag uchafswm niferoedd disgyblion o 25 ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Allweddol 1 (Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1, a Blwyddyn 2).
3. Ehangu’r Premiwm Disgyblion i’n targed o £2,500 y disgybl y flwyddyn rhwng 5 - 15 oed, ac i £1000 y disgybl y flwyddyn o dan 5 oed.
4. Creu un awdurdod sengl i bennu cynnwys y cwricwlwm yng Nghymru, yn annibynnol o ymyrraeth y Llywodraeth, gan gynnal grymoedd Gweinidogol i bennu’r cyfeiriad cyffredinol ehangach.
5. Cyfarwyddyd ar Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd  -cwricwlwm dros oes - llythrennedd ariannol, cymorth cyntaf a sgiliau achub bywyd mewn argyfwng, addysg wleidyddol, dinasyddiaeth ac addysg rhyw a pherthynas sy’n briodol yn ol oed. .
6. Sefydlu Academi Arweinyddiaeth Cymru i hyrwyddo arweinyddiaeth o ansawdd uchel a helpu arweinwyr gorau i weithio yn yr ysgolion mwyaf heriol.
7. Caniatáu i ysgolion sydd wedi dangos gwerthoedd allweddol arweinyddiaeth, arloesi a gwella i ennill pwerau newydd ac ymreolaeth oddi wrth lywodraeth lleol a Llywodraeth ganolog, darparu ganddynt hanes amlwg o ragoriaeth. Dylid gwneud hyn mewn ffordd sy'n nid yw yn lleihau gallu'r awdurdodau lleol a etholwyd yn ddemocrataidd i deg ac yn effeithiol reoli'r ddarpariaeth o leoedd ysgol ar draws yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu, neu i ymyrryd lle bo angen i sicrhau bod y ddarpariaeth o safonau addysgol priodol.
8. Cryfhau atebolrwydd drwy roi grymoedd ychwanegol i lywodraethwyr ysgol i rybuddio, disgyblu neu ddiswyddo prifathrawon nad ydynt yn bodloni targedau y cytunwyd arnynt ar y cyd.
9. Cyflwyno rhaglen Prifathrawon Dawnus i ddenu’r arweinwyr gorau i’r ysgolion lle mae’u hangen fwyaf.
10. Ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu Byrddau Prifathrawon o fewn eu hardaloedd i helpu ysgolion i wella ac i gynghori’r awdurdod lleol ar opsiynau o ran ymyrraeth a chefnogaeth.
11. Galluogi mwy o reolaeth i brifathrawon dros gyllideb eu hysgol.
12. Diddymu y consortia addysgol rhanbarthol.
13. Sicrhau cynrychiolaeth etholedig cymheiriaid o’r proffesiwn addysgu ar Gyngor y Gweithlu Addysg i sicrhau ei fod yn atebol yn iawn