24/12/2015

Dymuniadau gorau ar gyfer yr Wyl gan Gwynoro


Mae hyn i ddymuno fy nheulu a ffrindiau ynghyd â channoedd o adnabyddiaethau a'r cysylltiadau rwyf wedi wneud drwy'r cyfryngau cymdeithasol dros y chwe mis diwethaf..

Nadolig llawen a Blwyddyn Newydd iach, hapus a ffrwythlon



Mae'r Nadolig yn uno pobl mewn meddwl ac ysbryd a hefyd yn dwyn ynghyd teuluoedd, ffrindiau a chysylltiadau ymhell ac yn agos;

Mae'r adeg hon o'r flwyddyn hefyd yn helpu inni werthfawrogi'r hyn sydd gennym yn ein bywydau - y byddwn yn llawer rhy aml yn eu cymryd yn ganiataol;

Mawr hyderaf bydd i gwir ystyr y Nadolig lenwi ein calonnau a’n meddyliau gyda neges ewyllys da; 

Gan gofio pawb  naill gartref neu thramor sy'n sylweddol llai ffodus na ni, sydd yn byw mewn ofn, anobaith, newyn ac yn dyheu am heddwch a diogelwch yn y byd cythryblus a terfysglud hwn.


23/12/2015

Atgofion Nadolig pan yn tyfu fyny yn niwedd y 1940au

‘Roedd yn adeg ‘rations’ a ‘coupons’ pan oedd llawer o fwydydd hanfodol a chynhyrchion eraill yn brin iawn ac fe fu hyn mewn bodolaeth hyd at ddechrau y pumdegau cynnar.

Hefyd oedd anrhegion ac addurniadau yn brin iawn hefyd ac yn wir fy anrhegion Nadolig cyntaf oedd rhai pren a wnaeth fy nhad – ‘roedd yn saer coed - pethau megis berfa a ceffyl pren ar olwynion. Ar ol hynny esgidiau rygbi a crys coch megis tim Cymru! Ychydig ar ol hynny daeth Meccano, Beano, Dandy, Radio Fun ac yn y blaen.

Cefais fy nghodi mewn pentref o'r enw Foelgastell yng ngorllewin Cymru. Nid oedd trydan na cyflenwadau dŵr yn y tŷ tan tua 1950. Felly hyd hynny ‘roedd y dŵr yn cael ei gasglu mewn ‘sten’ o ffynnon tua pedwar can llath i ffwrdd.

Fu Capel Peniel yn ganolog i fywyd yr aelwyd trwy cyfnod tyfu i fyny hyd at ymhell dros saith degau. Hefyd hyd at y chwe degau ‘roedd gwasanaeth am 6 o'r gloch bore dydd Nadolig. 

Oes dra whanol iawn!

Un o'r atgofion mwyaf cofiadwy sydd gennyf oedd yr eira mawr yn 1947 a fu yn gyfnod stormydd eira y mwyaf yn yr ugeinfed ganrif - gyda  lluwchfeydd 10 troedfedd a mwy. 

Parhaodd yr eira ar y ddaear am ychydig fisoedd.

Ar y bore oedd yr eira wedi cyrraedd cofiaf fynd i lawr y grisiau gyda fy mam, ac wrth iddi agor y llenni oedd y cyfan yn wyn – oedd yr eira hyd at lefel ffenestri. Nid hawdd fu hi i fynd allan ond fe llwyddod fy nhad a 'm tadcu wneud ta beth. Pan aethom allan i’r brif ffordd roedd gweithwyr cyngor yn gweithio ar lefel y gwrychoedd. Cofiwch oedd dim JCB neu pethau cyffelyb ond rawiau!


Beth bynnag mae’r fideo yn adrodd y stori.

22/12/2015

Atgofio’n Oes hyd at 1999

Gyda Beti George ar Radio Cymru – ‘Beti ai Phobl’

Rhaglen tebyg iawn i ‘Desert Island Discs’ gyda Beti yn holi am fy nghefndir, bywyd  cynnar, fy naliadau a hefyd fy nghyrfa gan gynnwys wrth gwrs yr wyth mlynedd o ymrafael a Gwynfor Evans.

Erbyn y diwedd y ganrif ,roeddwn wedi bod yn Gyfarwyddwr cwmni arolygu ysgolion ers 1994 felly ceir cyfeiriadau at y blynyddoedd cynnar hynny hefyd.
Nid wyf am ddweud gormod - gwell gwrando ar y cyfweliad - ond bydd dylanwad yr aelwyd, teulu, capel a’r ardal yn dod drosodd yn amlwg yn y dewisiadau o ganeuon ac yn y blaen.

Hefyd wrth gwrs pwysigrwydd Cymru fel cenedl, iaith, traddodiau ac yn y blaen.

Nid yw’r fideo gyda fy hen gyfaill Gwilym Owen yn gysylltiedig o gwbl dim ond rhywbeth I edrych arno tra yn gwrando!

Gobeithio y mwynhewch atgofion o dyddiau a fu.  



17/12/2015

Pan fydd UKIP yn dweud am inni beidio â phoeni, y gallwn cerdded ar y dwr, fydd orau inni beidio eu credu


Post  gwadd gan Peter Sain ley Berry

Trysorydd Cyngor Cymru y Mudiad Ewropeaidd, a

Cyn-Ysgrifennydd Cymru Cyngor y CD yn yr 80au a hefyd aelod o Bwyllgor y Gynghrair.



Swyddi go iawn a bywoliaeth yn cael ei ddisgowntio oherwydd breuddwydion amheus. 


Llongyfarchiadau i Carwyn Jones am lansio ymgyrch Cymru i aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ac i bwysleisio fod yna 200,000 o swyddi yng Nghymru sy'n gysylltiedig â masnach yr UE ac y byddent mewn perygl pe bai Prydain yn pleidleisio i adael. 

Ar unwaith tarawodd UKIP yn ôl â chyhuddiadau gan godi bwganod. Ond wrth gwrs fydden nhw, ond onid oes ganddynt ddim arall i'w ddweud?

Wrth gwrs mae’n wir y byddai Cymru ddim yn  colli 200,000 o swyddi y diwrnod ar ôl Brexit. Ond oni ellir dadlau dros y deng mlynedd canlynol byddai llawer o'r swyddi hynny yn sicr yn diflannu fel y bydd y cwmniau sydd yma bellach yn rhoi'r gorau i fuddsoddi ac raddol yn gadael  Hefyd fydd yna llai o gwmnïau rhyngwladol yn buddsoddi yng Nghymru os byddwn allan o’r  UE.

Na gyd geir gan UKIP byth a beunydd yw honiad amheus ar ôl honiad amheus. Bydd bownd o fod yn well arnom tu allan i’r UE oherwydd mae UKIP yn honni byddwn. Neidiwch dros y clogwyn, rydym wedi dylunio parasiwt i chi. Wrth gwrs bydd yn gweithio!

Swyddi go iawn a bywoliaeth yn cael ei ddisgowntio oherwydd breuddwydion amheus. 

Beth sydd ei angen yw i’r Llywodraeth ar bob lefel esbonio pam y dewisodd Prydain i ymuno a’r UE yn y lle cyntaf ac yna pam y dewiswyd ei adeiladu ai ehangu i greu corff rhyngwladol nerthol a welwn heddiw. Buodd Prydain dros degawdau yn helpu i adeiladu yr UE, y farchnad sengl fwyaf yn y byd, y bartneriaeth economaidd a diplomyddol mwyaf, gan diweddu canrifoedd o wrthdaro a rhyfeloedd Ewropeaidd creulon.

Mae angen i bawb i sylweddoli a chydnabod hyn cyn ei bydd yn rhy hwyr. Rydym i gyd, fel y mae yn sefyll ar hyn o bryd, mewn perygl fel dywedodd Shakespeare o:

'throwing away the dearest thing (they) owned as though it were a careless trifle.'

Os ydych i fyny’r nant yna mae'n helpu os oes gennych padl, nid taflu’r peth i ffwrdd!.  A pan mae UKIP yn dweud wrthym i beidio â phoeni, gallwn gerdded ar y dwr, peth gorau fydd peidio eu credu.

16/12/2015

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei anwybyddu yn amlach na pheidio y dyddiau hyn gan y cyfryngau a'r Senedd ac hefyd ystyrir gan rai i fod yn 'ddibwys'

Er bod yr arolygon barn yn y DU a Chymru yn taflu cysgod dros y blaid mae aelodau'r blaid mewn hwyliau bywiog, yn benderfynol o ymladd yn ol ac ail-adeiladu.

Tua mis yn ol fe wneuthum y cyntaf o bedwar o gyfraniadau yng nghynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn Abertawe. Hwn oedd y gynhadledd wleidyddol gyntaf i mi siarad ynddi ers 1992 ac yr oeddwn braidd yn ansicir ac yn wir ychydig yn 'rhydlyd' yn fy areithio. Roedd hyn i gyd yn anochel mae'n debyg ar ôl bron 25 mlynedd tu allan i’r berw!

Ers 1992 ‘roedd pethau wedi newid tu hwnt i fy adnabyddiaeth o’r gorffenol ac roedd y cyfryngau yn absennol,  ond serch hynny roedd y presenoldeb yn dda a beth oedd yn fy nghalonogi'n oedd cyfran y bobl ifanc a oedd yn bresennol.

Y ddadl gyntaf imi gymryd rhan ynddi oedd datblygu maniffesto ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2016. Y cynnig gerbron y gynhadledd oedd ymadrodd Kirsty Williams ers talwm, ' Mapio’r Daith ar Gyfer 2016’. Y pwrpas oedd darparu cyfeiriad clir i’r blaid ar gyfer yr etholiad. Yn sicr roedd yn cwrdd a’r amcan hwnnw.

Yr oeddwn yn awyddus i nodi bod i gyrraedd unrhyw gyrchfan rhaid inni ddilyn yr arwyddbyst sydd yn rhoi cyfeiriad. Mewn geiriau eraill ni yw maniffesto yn ennill etholiad ond yn hytrach negeseuon clir a chryno ar ychydig themâu sydd yn gadael argraff barhaol yn feddwl yr etholwyr.  

I mi mae yr arwyddbyst yn glir –

Cael Cymru mwy agored a democrataidd gan gynnwys Cynulliad fwy cynhwysol ac ystyriol – sydd yn herio yn fwy agored, dal pobl i gyfrif ac yn un sydd yn llywodraethu ar gyfer Cymru gyfan;

Codi effeithiolrwydd, lefelau darpariaeth, effeithlonrwydd a safonau o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol;

Sicrhau bod hfyniant, buddsoddi, datblygiad economaidd ac adfywio, annog menter yn cael eu rannu ledled Cymru;

Diogelu ein hamgylchedd naturiol, cefnogi amaethyddiaeth, yr economi wledig a thwristiaeth;
  
Cryfhau lle Cymru yn gwleidyddiaeth y DU ac Ewrop a

Ddiogelu ein treftadaeth, diwylliant a hunaniaeth.

Credaf fod ‘Mapio’d Daith‘ yn cwmpasu’r chwech arwyddbyst yn dda iawn.

Isod ceir fideo sydd bennaf yn y Saesneg o fy nghyfraniad byr (fodd bynnag nid yw ansawdd y sain yn cyrraedd y safon arferol).


Credaf ei bod yn gwbl bosibl i’r Democratiaid Rhyddfrydol cael canlyniad gwell na’r disgwyl ar y foment yma Mai nesaf. Fe all ddigwydd gyda negeseuon strategol clir, ymgyrchu effeithiol a strategaeth gyfathrebu sydd wedi'i gynllunio'n dda yn y ddwy iaith.







 Mapio’r Daith ar Gyfer 2016: Cynnig ar gyfer y Maniffesto
Y Pwyllgor Polisi Cenedlaethol

Mae’r Gynhadledd yn nodi:

1. Cynhelir etholiadau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y 5ed o Fai, 2016.

2. Democratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd â’r gwreiddiau dyfnaf o holl bleidiau
gwleidyddol Cymru, a hwythau wedi bod ar flaen y gad â diwygio blaengar a radical ers dros 150 o flynyddoedd.

3. Y prif orchwylion yn wynebu Llywodraeth nesaf Cymru fydd:

a. Datblygu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac wedi’u canoli ar y bobl pan fo
gwasgu ar gyllidebau,
b. Tyfu’n heconomi er budd pawb, a
c. Rhoi’r cyfle i bawb mewn cymdeithas i lwyddo mewn bywyd, iddyn’ nhw’u hunain
ac i’w teuluoedd.

Mae’r Gynhadledd yn credu:

1. Y gall Cymru ond cyflawni’i photensial drwy fanteisio hyd yr eithaf ar gryfderau Cymru, megis ein diwylliant, ein hadnoddau, ac yn anad dim, ein pobl, a thrwy lywodraethu da gan lywodraeth sy’n gwerthfawrogi tryloywder a chraffu.

2. Ar adeg o ragor o dynhau ar gyllidebau, mae ar Gymru angen meddylfryd arloesol i wella gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu anghenion cleifion, disgyblion a rhieni ac i gyflawni cyfiawnder cymdeithasol.

3. Bod ar bobl ym mhobman yng Nghymru angen cael dweud eu dweud fwy ynglŷn â sut y cânt eu llywodraethu, yn neilltuol yn eu hardaloedd lleol eu hunain.

Mae’r Gynhadledd yn penderfynu cyflwyno polisïau i etholwyr Cymru sy’n cynrychioli’n gwerthoedd rhyddfrydol a’n gweledigaeth i adfywio Cymru, ac mae’n galw ar y Pwyllgor Polisi I ddatblygu maniffesto radical ac arloesol i:

1. Gryfhau’n heconomi ac i annog entrepreneuriaeth a thwf, yn cynnwys:

a. Cyflenwi strategaeth economaidd gytbwys, integredig, â phwyslais ar allforio;
b. Datganoli mwy o rymoedd i ardaloedd lleol;
c. Ysgogi’r stryd fawr;
ch. Ehangu prentisiaethau; a
d. Chwtogi’n sylweddol ar fân-reolau beichus i roi’r cyfle i fusnesau ffynnu.

2. Sicrhau bod y GIG yn canoli gofal ar urddas, cydymdeimlad, a dewis i unigolion mewn amgylchedd glân, diogel ac a reolir yn dda drwy;

a. Sicrhau lefelau diogel o nyrsys ar wardiau Cymru;
b. Gwarantu’r driniaeth orau i gleifion, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, yn cynnwys
gwella modd o gael at eich Meddyg Teulu;
c. Rhoi diwedd ar gamwahaniaethu ym maes iechyd meddwl a gwella cefnogaeth i
bobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

3. Datblygu cyfundrefn addysg sy’n helpu plant i ffynnu ac sy’n grymuso disgyblion a
rhieni drwy:

a. Helpu plant a chefnogi rhieni â darpariaeth gofal plant effeithiol;
b. Hyrwyddo blynyddoedd cynnar gan ddarparu dosbarthiadau llai o faint;
c. Darparu hyblygrwydd a rhyddid i athrawon arwain;
ch. Cynyddu cyllid drwy Bremiwm Disgybl Cymru;
d. Sicrhau modd teg o gael addysg bellach ac addysg uwch.


4. Cefnogi cymunedau gwledig, yn neilltuol drwy sicrhau sefydlogrwydd y diwydiant
amaethyddol.

5. Sicrhau bod pawb yn gallu cael cyfle am dŷ o ansawdd da am bris fforddiadwy.

6. Diogelu’n hamgylchedd naturiol a chynyddu’n hadnoddau ynni adnewyddadwy.

7. Sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn effeithlon ac yn hygyrch, yn
enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad.

8. Diwygio’r ffordd rydym yn ymwneud â gwleidyddiaeth, gan roi pwyslais ar ddatganoli grym hyd at y lefel ymarferol isaf, grymuso cymunedau, a sicrhau atebolrwydd ar bob lefel.

9. Sicrhau bod gan bawb yr hawl i siarad Cymraeg yn eu bywyd dyddiol a bod ganddynt yr hawl i addysg a gwasanaethau cyhoeddus Cymraeg sydd o ansawdd raenus.

10. Lledaenu gweledigaeth unol o genedl hunan-hyderus, sy’n sefyll ar ei thraed ei hun, yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop.

15/12/2015

'Mae y manteision o fod yn rhan o'r UE yn niferus a gwych. Yn fy marn i byddai gadael yn gamgymeriad - camgymeriad fyddai Cymru yn edifar'.

Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones

Neges a bostiwyd ar safle Facebook 'Ie dros Ewrop' :- 

' Rydym wedi bod yn glir bob amser yn ein hawydd i aros yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd (UE).

Er fod pobl ddim bob amser yn sylweddoli hynny, mae'r UE yn chwarae rhan sylweddol ym mywydau bob dydd pobl Cymru - mae'n adeiladu ffyniant ein cenedl, yn gwneud penderfyniadau am ein dyfodol economaidd ac yn pasio cyfreithiau sy'n effeithio arnom i gyd.

Dylai pwysigrwydd y farchnad sengl byth cael ei gymryd yn ganiataol. Mae'n ardal masnach rydd mwyaf y byd yn nhermau CMC a partner masnachu mwyaf y DU a Cymru.
Mae busnesau yn yr UE yn mwynhau farchnad "cartref" ychydig dros 500 miliwn o bobl gyda’r gallu i werthu nwyddau a gwasanaethau heb tariffau neu gyfyngiadau eraill a gyda safonau diogelwch cyffredin.

Mae'r farchnad sengl yn farchnad fwyaf ar gyfer allforion Cymru – yn 2014 yn unig  ‘roedd gwerth allforio nwyddau o Gymru i wladwriaethau eraill yr UE bron £5.8bn. Mae’r ymchwil diweddara yn dangos fod 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fynediad i'r farchnad sengl.

Y brif ffactor o ran mewnfuddsoddi yn ein gwlad yw’r farchnad sengl. Bellach erbyn 2015, gwelir dros 500 o fusnesau o wledydd eraill yr UE gyda gweithrediadau yng Nghymru, sydd yn cyflogi dros 55,000 o bobl.

Drwy rhaglenni Ewropeaidd eraill, megis y Gronfa Strwythurol a’r PAC, cynnigir cyfleoedd i gefnogi a datblygu economi Cymru, yn enwedig yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae Cymru wedi elwa o biliynau o bunnoedd o gronfeydd yr UE dros y blynyddoedd. Yn y flwyddyn hon yn unig, yr ydym wedi buddsoddi £425 miliwn o Gronfa Strwythurol yr UE i gefnogi ein economi a'r farchnad lafur.

Hefyd, ceir mae manteision sylweddol o gronfeydd yr UE trwy'r Polisi Amaethyddol sy'n darparu tua £200 miliwn y flwyddyn mewn taliadau uniongyrchol i fwy nag 16,000 o fusnesau ffermio yng Nghymru.


Felly mae y manteision o fod yn rhan o'r UE yn niferus a gwych. Yn fy marn i byddai gadael yn gamgymeriad - camgymeriad fyddai Cymru yn edifar'.

14/12/2015

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at ganlyniadau difrifol yng nghefn gwlad.

Petai UKIP ac eraill yn y blaid Dorïaidd yn cael eu ffordd a Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yna heb amheuaeth fydde yna le i ofni am ddyfodol ffermio, busnesau, gwasanaethau, a economi cymunedau gwledig Cymru.


I bwysleisio’r ffaith, ar hyn o bryd ar gyfartaledd mae ffermwyr yn dibynnu i fyny at 35 -50% o’u hincwm gros ar cymorthdal yr Undeb Ewropeaidd. Amcangyfrifir pe bae y Deyrnas Unedig (DU) tu allan i’r Undeb Ewropeaidd fe fyddai yn wir y byddai dyfodol llymach yn gwynebu ffermio. Amcangyfrifir mae dim ond tua 10-15% o ffermydd allai oroesi heb y lefelau presennol o gymorth.

Hefyd ar hyn o bryd, derbynnir gan y DU tua £4.0bn mewn taliadau cymhorthdal ar gyfer busnesau ffermio a cefn gwlad. Y dyfaliad gorau sydd wedi ei wneud pe byddai Llywodraeth Prydain yn gweithredu ar ei ben ei hun dim ond tua £1.0bn galle’r llywodraeth glustnodi i amaethyddiaeth.

Er mwyn sicrhau bod amaethyddiaeth gynaliadwy yn gweithredu yn llwyddianus o fewn cymuned gynaliadwy dibynnir ar bedair elfen bwysig - cefnogi gwasanaethau gwledig a'r economi, gofalu am yr amgylchedd, diogelu ein treftadaeth a sicrhau lefelau da o incwm.

Heb os mae y gwahanol bolisïau i ddatblygu busnesau a mentrau gwledig yn cael ei hyrwyddo gan yr Undeb Ewropeaidd yn dda ac yn cyfrannu'n effeithiol i gefnogi'r economi wledig, cymunedau, treftadaeth a thirwedd. 

Gwna’r Rhaglen Cynlluniau Datblygu Gwledig cyfraniad amhrisiadwy. Mae’r cyllid a geir nid yn unig yn cefnogi y diwydiant amaethyddol, ond hefyd busnesau megis twristiaeth a gwasanaethau gwledig eraill.


Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn drychineb i gefn gwlad.

09/12/2015

Os caiff UKIP a’r Toriaid wrth –Ewropeaidd eu ffordd bydd ffermio a’r economi wledig yn gwynebu amseroedd anodd iawn

Mae amaethyddiaeth a Chefn Gwlad yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru a ffordd o fyw y genedl.

Er dim ond tua 5% o boblogaeth y Deyrnas Unedig (DU) ydy Cymru mae 9% o dir amaethyddol, 29% o'r defaid, 12% o'r gwartheg sydd yn y DU i’w cael yng Nghymru gyda 60,000 o’n pobl yn ffermio. .

Felly ar draws rhannau helaeth o Gymru mae ffermwyr au busnesau yn hanfodol o fewn ein cymunedau ac yn  chwarae rôl bwysig i sicrhau economi cryf a bywiog. Hefyd maent yn gwneud cyfraniad enfawr i warchod y tirwedd a'r amgylchedd fel y gall cynifer ohonom fwynhau byw, gweithio neu ymweld â chefn gwlad.

Yn ddiweddar bum yn cyfrannu at y ddadl ar amaethyddiaeth a chefn gwlad yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Abertawe ac fe dynnais sylw at rhai o'r heriau presennol sy'n wynebu ffermio. ‘Roedd yr arbenigedd a ddangoswyd gan gyfranwyr i'r ddadl yn drawiadol sy'n dangos pa mor bwysig yw amaethyddiaeth a'r economi wledig i’r Democratiaid Rhyddfrydol. 

Cafwyd gyfraniad nodedig gan y cyn AS ar gyfer Brycheiniog a Maesyfed Roger Williams ac ‘roedd yn amlwg fod eu wybodaeth am y diwydiant yn sylweddol.

Yn anffodus nid yw'r swn gystal a ddylasai fod ar y fideo ond y pwyntiau wnes yn y ddadl oedd:

Y sialens i ffermio wrth yn ymdopi â cyfnewidioldeb y farchnad ac oherwydd y maent yn bodoli mewn marchnad fyd-eang mae’r anwadalrwydd yn rhwym o ddigwydd. Dros yr haf ‘roedd y gostyngiad mewn prisiau cig oen a llaeth wedi achosi ffermwyr i wynebu'r  amser heriol gan iddynt dderbyn llai am eu cynhyrchion na'r gost o'i gynhyrchu. Felly rhaid i Lywodraeth Cymru o hyd fod yn wyliadwrus a yn barod i gefnogi'r diwydiant pan fo'r fath cyfnodau yn digwydd am gyfnod hir.  

Pwysigrwydd sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cynhyrchu a phryderon amgylcheddol i sicrhau y gall amaethyddiaeth fod yn gynaliadwy.

Er mwyn sicrhau bod amaethyddiaeth gynaliadwy yn gweithredu yn llwyddianus o fewn cymuned gynaliadwy dibynnir ar bedair elfen bwysig - cefnogi gwasanaethau gwledig a'r economi, gofalu am yr amgylchedd, diogelu ein treftadaeth a sicrhau lefelau da o incwm.

Heb os mae y gwahanol bolisïau i ddatblygu busnesau a mentrau gwledig yn cael ei hyrwyddo gan yr Undeb Ewropeaidd yn dda ac yn cyfrannu'n effeithiol i gefnogi'r economi wledig, cymunedau, treftadaeth a thirwedd. Gwna’r Rhaglen Cynlluniau Datblygu Gwledig cyfraniad amhrisiadwy. Mae’r cyllid a geir nid yn unig yn cefnogi y diwydiant amaethyddol, ond hefyd busnesau megis twristiaeth a gwasanaethau gwledig eraill.

Wrth gwrs mae yna le i ofni oherwydd petai UKIP ac eraill yn y blaid Dorïaidd yn cael eu ffordd a Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yna heb amheuaeth fydde yna le i ofni am ddyfodol ffermio a  busnesau gwledig. Ar hyn o bryd, derbynnir tua £4.0bn mewn taliadau cymhorthdal gan busnesau ffermio a cefn gwlad. Yr dyfaliad gorau sydd wedi ei wneud os byddai Llywodraeth Prydain yn gweithredu ar ei ben ei hun dim ond tua £1.0bn galle’r llywodraeth glustnodi i amaethyddiaeth.

Felly byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd y arwain at ganlyniadau difrifol yng nghefn gwlad.

I bwysleisio’r ffaith ar hyn o bryd ar gyfartaledd mae ffermwyr yn dibynnu i fyny at 35 -50% o’u hincwm gros ar cymorthdal yr Undeb Ewropeaidd. Amcangyfrifir pe bae y DU tu allan i’r Undeb Ewropeaidd fe fyddai yn wir dyfodol llwm yn gwynebu ffermnio gan mae dim ond tua 10-15% o ffermydd allai oroesi heb y lefelau presennol o gymorth.

Dyma’r cynnig a basiwyd yn y gynhadledd:

Mae’r Gynhadledd yn nodi bod:

1. Amaethyddiaeth a’i diwydiannau ategol yn gwneud cyfraniad enfawr at economi Cymru, gyda gwerth ychwanegol gros amaethyddiaeth i economi Cymru yn 2014 yn £374 miliwn.
2. Mae amaethyddiaeth yn darparu’r asgwrn cefn i gymunedau cefn gwlad, sy’n ganolbwynt ar gyfer creu ffynonellau eraill o incwm.
3. Y darogan yw y bydd Incwm Busnes Cyfartalog Ffermydd yng Nghymru yn gostwng i £22,200 yn 2014-15, sy’n golygu dirywiad o 24% o £29,300 yn 2013-14.
 4. Mae cyfartaledd oed amaethwyr Cymru yn parhau i godi o 60.26 yn 2013, o’i gymharu â 59.58 yn 2010, a 58.47 yn 2007, ac mae’r bobl ifanc sy’n dechrau ffermio yn wynebu heriau sylweddol.
 5. Mae’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn, ac wedi bod erioed ers ei greu, yn gymhorthdal i gynhyrchu bwyd sydd o fudd i’r manwerthwyr ac i’r defnyddwyr lawn cymaint, o leiaf, ag ydyw i’r prif gynhyrchydd, ac mae’i berthynas ag incymau ffermydd yn gymhleth.
6. Cynhyrchu bwyd yw un o’r ychydig prin o ddiwydiannau sy’n angenrheidiol ar gyfer yr anghenion dynol mwyaf sylfaenol.
7. Mae yna ddatgysylltiad cynyddol rhwng cymunedau gwledig a threfol gan esgor ar ddiffyg gwybodaeth sylfaenol am gynhyrchu bwyd, a gall mentrau megis ‘Cows on Tour / Gwartheg ar Grwydr’, a gyflwynwyd gan undebau amaethyddol, helpu i fynd i’r afael â hyn.
8. Mae amaethwyr sy’n dymuno moderneiddio’n eu cael eu hunain fwyfwy’n wynebu rhwystrau cynllunio a all ymestyn y broses yn annheg a lleihau cost-effeithiolrwydd y camau y mae arnynt angen eu cymryd i gynnal busnes a all lwyddo.
9. Mae marchnadoedd bwyd byd-eang yn gynyddol anwadal ac mae pwysigrwydd sicrwydd bwyd mor anhepgor ag y mae wedi bod ar unrhyw adeg er 1945, gyda hunangynhaliaeth bwyd y DU tua 60%; gostyngiad o ganran o thua 75% yn 1991.

Mae’r Gynhadledd yn credu:

1. Ei bod hi’n bwysig cynnal cynhyrchiant amaethyddol drwy gefn gwlad Cymru i gyd, yn cynnwys cynhyrchiant iseldir ac ucheldir er lles cymunedau gwledig Cymru yn ogystal ag er lles amaethwyr.
2. Gofalir am yr amgylchedd naturiol orau drwy barhad ffermio sydd wedi’i deilwra i anghenion ardaloedd unigol, yn cynnwys eu hanghenion amgylcheddol.
3. Bydd unedau modern mawrion ac unedau ar raddfa lai sy’n gallu elwa o farchnata arbenigol yn angenrheidiol ac yn fuddiol i Gymru a’i hamaethyddiaeth.
4. Dylid cefnogi amaethwyr i ganfod y llwybr gorau at broffidioldeb a chynhyrchu cynaliadwy, yn dibynnu ar eu sefyllfa unigol.
5. Dylai cefnogaeth i amaethwyr barhau i gael ei rhoi i’r holl amaethwyr mewn ffordd deg er mwyn cynnal y cydbwysedd rhwng bach a mawr, ucheldir ac iseldir.
6. Mae’n rhaid inni gydnabod y bydd cyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn dal i ostwng ac y dylid ei ddefnyddio mor effeithiol â phosibl gyda phwyslais ar gynnal cynhyrchiant priodol o fwyd.
7. Dylai cynnal sicrwydd bwyd fod yn ganolog i unrhyw benderfyniadau amaethyddol a wneir yng Nghymru a dylai’r cyfryw benderfyniadau bob amser ystyried eu heffaith hirdymor ar allu Cymru i barhau i fwydo ei hun.
8. Dylid gwella prosesau cynllunio er mwyn osgoi cymhlethdodau ac oediadau diangen, a ffafrio cynnal busnesau cadarn o bob math i gynnal swyddi a safonau byw, gan barhau’n ddigon llym eu safonau i ddiogelu cymunedau rhag datblygiad amhriodol.
9. Byddai pobl Cymru’n elwa petai gwybodaeth am gynhyrchu bwyd yn cael ei gwneud yn fwy cyffredinol, yn enwedig o oed cynnar.

Mae’r Gynhadledd yn galw ar:

1. Lywodraeth Cymru i weithredu mentrau polisi i amddiffyn amaethyddiaeth a chynhyrchiant bwyd ledled Cymru ac yn enwedig i ymwreiddio cynhyrchu bwyd drwy ddefnyddio systemau addas ym mhob penderfyniad amgylcheddol yng nghefn gwlad Cymru
2.   rhwydwaith Cyswllt Ffermio i helpu amaethwyr a pherchnogion tir ganfod y llwybr gorau i broffidioldeb a chynaliadwyedd yn ôl eu sefyllfa, yn enwedig i gydnabod pwysigrwydd Swyddogion Maes a harneisio gwybodaeth leol i fagu hyder a gwytnwch yn y sector ffermio, gan leihau hyd yr eithaf ar y lefel o wasanaethau ymgynghori generig a ariannir drwy Gyswllt Ffermio
3. Llywodraeth Cymru i weithio ag awdurdodau lleol i wella’r broses gynllunio ar gyfer holl fusnesau Cymru, er mwyn sicrhau'r oedi lleiaf posibl a chefnogaeth hirdymor ar gyfer cynaliadwyedd cymunedau cyfain.
 4. Adolygiad sylfaenol o ganllawiau Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6 ar ‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy ’ er mwyn cyflawni gwir gynnydd wrth ddarparu tai cefn gwlad fforddiadwy ledled Cymru, sy’n bwysig ar gyfer y rhai iau sy’n dechrau ffermio, yn ogystal â darparu lle byw priodol i amaethwyr sy’n dymuno trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.
 5. Llywodraeth Cymru i weithio ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), Undeb Amaethwyr Cymru a Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru i gefnogi gweithgareddau’r Clybiau Ffermwyr Ifanc mewn ardaloedd trefol ac i fynd â ffermio a chynhyrchu bwyd i mewn i ysgolion ledled Cymru a’r tu hwnt i ddangos i blant o lefel gynradd, gwledig a threfol, sut y caiff anifeiliaid eu magu a sut y caiff bwyd ei gynhyrchu a pha gyfraniad a wna hyn at y genedl.
 6. Llywodraeth Cymru i gynnal ei chefnogaeth i ffermio ledled Cymru mewn modd teg, gan gofio anghenion cymunedau am sector ffermio cryf ym mhob ardal, wrth i gyllid y Polisi Amaethyddol Cyffredin raddol ostwng.
 7. Adolygiad llawn o gynlluniau amaeth-amgylcheddol i sicrhau eu bod yn cyflawni ffermio cynaliadwy a rheolaeth amgylcheddol, ac i sicrhau eu bod yn cael eu cyllido’n llawn fel bod amaethwyr yn cael eu gwobrwyo’n deilwng am y gwaith cadwraeth a wnânt.
 8. Llywodraeth Cymru i ddatblygu rhagor ar gefnogaeth i bobl ifanc sy’n dechrau ffermio yng Nghymru, gyda phwyslais ar gyfraniad potensial rhannu ffermio ac arwyddocâd daliadau amaethyddol ym mherchnogaeth awdurdodau lleol ledled Cymru i ddarparu mynediad at y tir.






07/12/2015

Etholiad Hanesyddol Caerfyrddin Chwefror 1974

Rhaglen S4C o ‘Fon I Fynwy’ Gwynoro yn  trafod y dyddiau gyda Vaughan Hughes.

Go anhebyg y gwelir cyfnod yn wleidyddiaeth Cymru eto megis yr adeg 1967 -1975 pan fu Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru a Gwynoro Jones ymgeisydd y Blaid Lafur yn brwydro mor frwd yn erbyn eu gilydd yn etholaeth Caerfyrddin.

Mewn gwirionedd ‘roedd yn frwydyr bersonol rhyngddynt.

Hefyd welwyd cefnogwyr y ddwy blaid at yddfau eu gilydd am wyth mlynedd yn ddi-dor. Mae’r papurau lleol yr etholaeth yn destun i hynny gyda erthyglau a llythyron ynddynt yn wythnosol a nifer ohonynt yn eitha ffyrnig a milain.
  
‘Roedd yr ymgyrchu rhyngddynt yn fywiog, stormus ar brydiau ond hefyd yn llawn egni gyda canoedd yn y ddwy blaid wrthi.

Oedd canlyniad noswaith y cyfri yn gwbl anisgwyl.  Oedd gan Gwynoro mwyafrif o bron pedair mil yn 1970. Ond cynhaliwyd yr etholiad yng nghanol streic y glowyr a hefyd pan fu pobl yn gweithio ond tri diwrnod yr wythnos a toriadau i ddefnydd o drydan. ‘Roedd y glowyr a’r undebau llafur ddim yn boblogaidd o bell ffordd.

Dechreuwyd y cyfri am ddeg ar y nos Iau yn ol yr arfer ond ni gwblhawyd y cyfri hyd tua wyth o’r gloch ar y nos Wener!



Gwell gwrando ar y fideo cyn dweud rhagor.

06/12/2015

Angen gwelliant sylweddol ar y gwasanaeth Addysg Yng Nghymru

Gallai safonau mewn perfformiad a darpariaeth addysg yng Nghymru fod yn well o lawer

Yn gyffredinol y dyddiau hyn pan yn ffurfio barn ynghylch perfformiad annerbyniol neu wael unrhyw sefydliad, corff cyhoeddus neu hyd yn oed unigolyn yr ymadrodd a ddefnyddir yw 'ddim yn addas i’r pwrpas‘. Heb gwestiwn mae hyn yn berthnasol bellach i’r Gweinidog Addysg Huw Lewis – ond ddof nol at y pwnc mewn post arall cyn bo hir.

Mae'n deg nodi bod arwyddion o welliant yn y ein hysgolion mewn materion megis presenoldeb, triwantiaeth, lles disgyblion, agweddau ar addysgu a dysgu, hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwella a gostyngiad yn y gyfran o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg neu hyfforddiant mewn meysydd penodol.

Ond yn y maes allweddol sef y safonau mae yna le sylweddol i wella. Yn wir mae’r Gweinidog Addysg presennol a'i ragflaenydd yn cytuno â mi gydag un pwyntio at 'ddifaterwch' pan yn trafod canlyniadau PISA a’r llall yn nodi 'gwendidau systemig' yn y gwasanaeth addysg.

Tra yn edrych ar y pwyntiau allweddol a nodwyd gan Estyn yn yr adroddiad blynyddol diweddara mewn perthynas a’r ysgolion a arolygwyd, mae’n deg i nodi fod perfformiad yn erbyn nifer o ddangosyddion wedi gwella ‘ond yn raddol iawn’. Dangosyddion megis cyfraddau presenoldeb, triwantiaeth a y bwlch mewn perfformiad rhwng isgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion eraill yn lleihau.

Ond ar y cwestiwn mawr sut mae’r plant a’r ysgolion yn perfformio wrth edrych ar y  safonau mae yna bryderon yn dal i fod o hyd. Mae yna heriau pwysig yn parhau megis:
Gostyngiad mewn safonau yn yr ysgolion cynradd a arolygwyd a fod cyfran yr ysgolion cynradd â ' safonau 'da' neu 'ardderchog' wedi gostwng i 6 o bob 10. Felly mae 4 o bob 10 yn 'ddigonol' yn unig (mewn geiriau eraill ocê!). Y broblem ganolog oedd gwendid yn sgiliau rhifedd disgyblion a’r diffyg hyder y disgyblion o ran defnyddio’r medrau hyn mewn pynciau eraill, ond mae’r sefyllfa hyn wedi bod yn destun pryder ers blynyddoedd.

Dwed Estyn fod safonau mewn llythrennedd wedi gwella 'ychydig' mewn perthynas a medrau ysgrifennu y plant ond fod y gwelliant yn ‘fwy’ yn y Cyfnod Sylfaen nag yng nghyfnod allweddol 2 ( disgyblion oedran 7 -9/10 ). Mae’r ffaith olaf yn bryder parhaus.

Er bod y safonau mewn ysgolion uwchradd yn gwella i’w gymharu a ‘pherfformiad cymharol wan‘ y flwyddyn cynt, erys cryn ffordd i fynd. Dim ond 50% o'r ysgolion a arolygwyd oedd yn cyflawni safonau 'rhagorol neu dda'. Felly, mae yna llawer iawn ohonynt yn y blwch 'digonol' – yn amlwg, nid yw hynny'n ddigon da. Nodwyd bod angen cyffredinol i wella safonau mewn mathemateg a rhifedd, yn ogystal â darpariaeth ar gyfer y disgyblion mwy abl a dawnus.

Un ffaith sydd yn sefyll allan yn Adroddiad Blynyddol Estyn ac o bosib sydd yn crynhoi y sefyllfa sef ers 2010 mae yna nifer gynyddol o ysgolion ac angen monitro  pellach arnynt yn dilyn eu harolygiad ‘craidd’ cychwynnol. Dwed yr adroddiad fod y nifer o ysgolion sy’m mynd mewn i gategori ‘gweithgarwch dilynol’ wedi codi ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf. Dros bron yr ugain mlynedd ’roeddwn yn arolygu ’roedd ymroddiad, a phroffesiynoldeb staff ysgolion yn ddi gwestiwn ond yn amlwg mae angen mynd i’r afael a’r diffygion yn llawer mwy treiddgar a grymus.

Cyfeiriwyd hefyd at ddau agwedd oedd yn peri pryder sef y safonau mewn Cymraeg ail iaith ‘ddim yn gwella’ ac nid yw ysgolion yn asesu gwaith disgyblion ddigon cywir a cadarn. ‘Roedd y rhain yn faterion o bryder drwy gydol y blynyddoedd yr oeddwn yn  arolygwr, felly dim llawer wedi symud ymlaen.

Pan oeddwn yn arolygu ‘roedd yr adroddiadau byth a beunydd yn tynnu sylw fod angen ar yr ysgolion i wella cywirdeb a chysondeb gwaith asesu athrawon gan gynnwys yr angen i esbonio’n glir i ddisgyblion sut i wella eu gwaith. Un peth arall oedd yn amlwg yn gymharol amal pan wrth ein gwaith sef wrth edrych ar lyfrau’r disgyblion yn ystod arolygiadau ’roeddwn yn canfod fod diffyg cyfatebiaeth rhwng y lefelau Cwricwlwm Cenedlaethol a nodwyd gan yr athrawon ac ansawdd gwaith y disgyblion yn y dosbarth neu y llyfrau gwaith cartref.

Os ceir ddiffygion yn yr Asesu fe ganlyn diffygion mewn cyrraedd arfraniadau cywir sydd mor hanfodol nid yn unig i’r disgyblion a’r rhieni ond hefyd sydd yn codi cwestiynau am brosesau hunanarfarnu yr ysgol. Ymhellach nid oes gan arweinwyr ysgolion, gan gynnwys y llywodraethwyr, wybodaeth cywir am berfformiad y disgyblion ac felly ni allant farnu beth sydd yn gweithio’n dda er mwyn codi safonau a  pherfformiadau.

Nawr nid oes angen mynd ymhellach er mwyn dechrau deall pam mae Cymru mor isel  lawr y tabl gymhariaeth ryngwladol ar safonau addysg (PISA). Allan o 65 o wledydd mae y canlyniadau yn dangos yn y pynciau craidd ( Cymraeg/Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth) fod Cymru yn 43 at y tabl, Gogledd Iwerddon 33, Lloegr a'r Alban fwy neu lai yr un fath ar 25ain.  Wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru ac eraill yn y proffesiwn addysg yn ceisio dweud bod cymariaethau o'r fath yn ddiystyr. Esgus ydy hynny ac mewn gwirionedd y maent yn arwyddocaol dros ben ac fe geir wendidau sylfaenol ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig.

Wrth orffen pan yn arolygu ‘roedd tua 70% o’r ysgolion bob amser yn cwyno am y diffyg cymorth a chanllawiau proffesiynol yr oeddent yn gael gan eu hawdurdodau addysg lleol. Roedd yn nodwedd gyffredin. Ond nid yw'n syndod oherwydd yn y blynyddoedd diwethaf mae 9 awdurdod lleol, ar adegau amrywiol, wedi cael eu gosod yn y categori mewn angen o 'mesurau arbennig' a hefyd bod angen cymorth sylweddol arnynt er mwyn sicrhau gwelliant.

Ymdrinais â rhai o'r materion hyn yng nghynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Y peth a roddodd boddhad imi oedd gwrando ar sawl un o'r cynrychiolwyr a siaradodd a oedd yn deall natur yr hyn sydd yn ddiffygiol yn system addysg Cymru. Yr oedd yn drafodaeth wybodus.

Dyma y cynnig polisi terfynol a cytunwyd arno ar ôl pasio sawl gwelliant:

Mae’r Gynhadledd yn nodi bod:
 1. Cymru wedi colli tir yn sylweddol yn erbyn gweddill y Deyrnas Unedig mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, yn ôl rhestrau PISA gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd;
 2. Nid yw Llywodraeth Cymru’n pennu safonau gofynnol ar gyfer ysgolion yng Nghymru;
3. Prifathrawon ac athrawon i gyflawni’r canlyniadau gorau wrth roi hyblygrwydd a chefnogaeth iddynt, nid drwy’u llethu â mân-reolau gan lywodraeth ganol;
 4. Mae hi yn aml yn well gwella atebolrwydd a pherfformiad drwy reoli risg, yn hytrach na thrwy gynyddu rheolaeth;
5. Effaith bositif Premiwm Disgyblion Cymru, sydd, yn ôl dadansoddiad annibynnol, wedi arwain at “faint sylweddol o weithgaredd newydd” a anelir at gefnogi disgyblion difreintiedig.
 Mae’r Gynhadledd yn credu:
1. Bod yn rhaid inni fod yn blaid dros gyfleoedd, sy’n galluogi pobl ledled Cymru i wneud cynnydd yn eu bywydau.
2. Nad oes yna ddim yn flaengar ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus gwael, ac mae’n rhaid inni ganfod ffyrdd newydd ac arloesol o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus sy’n ochri â rhieni, disgyblion a chleifion.
3. Y dylid rhyddhau unigolion oddi wrth lywodraeth gyfyngol, a grymuso arweinwyr i arwain gan sicrhau bod safonau gofynnol yn cael eu cyrraedd a bod atebolrwydd yn gryf ac yn dryloyw.
4. Dylid rhoi’r ymreolaeth i brifathrawon wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eu disgyblion.
5. Mae gweithwyr proffesiynol ac arbenigwyr yn gwybod yn well na gwleidyddion beth ddylid ei gynnwys yng nghwricwlwm ysgolion a sut y dylid rheoli ysgolion.
 6. Ni ddylid rhedeg ysgolion er elw, na’u gweithredu gan gwmnïau preifat.
Mae’r Gynhadledd yn galw am:
1. cyflwyno monitro disgyblion unigol, ac ar gyfer ysgolion nad yn ategu datblygiad pob disgybl i gael eu gosod yn awtomatig mewn mesurau arbennig yn ddigonol.
2. Sicrhau bod plant yn cael y sylw unigol y mae arnynt ei angen drwy gyflwyno dosbarthiadau ag uchafswm niferoedd disgyblion o 25 ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Allweddol 1 (Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1, a Blwyddyn 2).
3. Ehangu’r Premiwm Disgyblion i’n targed o £2,500 y disgybl y flwyddyn rhwng 5 - 15 oed, ac i £1000 y disgybl y flwyddyn o dan 5 oed.
4. Creu un awdurdod sengl i bennu cynnwys y cwricwlwm yng Nghymru, yn annibynnol o ymyrraeth y Llywodraeth, gan gynnal grymoedd Gweinidogol i bennu’r cyfeiriad cyffredinol ehangach.
5. Cyfarwyddyd ar Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd  -cwricwlwm dros oes - llythrennedd ariannol, cymorth cyntaf a sgiliau achub bywyd mewn argyfwng, addysg wleidyddol, dinasyddiaeth ac addysg rhyw a pherthynas sy’n briodol yn ol oed. .
6. Sefydlu Academi Arweinyddiaeth Cymru i hyrwyddo arweinyddiaeth o ansawdd uchel a helpu arweinwyr gorau i weithio yn yr ysgolion mwyaf heriol.
7. Caniatáu i ysgolion sydd wedi dangos gwerthoedd allweddol arweinyddiaeth, arloesi a gwella i ennill pwerau newydd ac ymreolaeth oddi wrth lywodraeth lleol a Llywodraeth ganolog, darparu ganddynt hanes amlwg o ragoriaeth. Dylid gwneud hyn mewn ffordd sy'n nid yw yn lleihau gallu'r awdurdodau lleol a etholwyd yn ddemocrataidd i deg ac yn effeithiol reoli'r ddarpariaeth o leoedd ysgol ar draws yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu, neu i ymyrryd lle bo angen i sicrhau bod y ddarpariaeth o safonau addysgol priodol.
8. Cryfhau atebolrwydd drwy roi grymoedd ychwanegol i lywodraethwyr ysgol i rybuddio, disgyblu neu ddiswyddo prifathrawon nad ydynt yn bodloni targedau y cytunwyd arnynt ar y cyd.
9. Cyflwyno rhaglen Prifathrawon Dawnus i ddenu’r arweinwyr gorau i’r ysgolion lle mae’u hangen fwyaf.
10. Ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu Byrddau Prifathrawon o fewn eu hardaloedd i helpu ysgolion i wella ac i gynghori’r awdurdod lleol ar opsiynau o ran ymyrraeth a chefnogaeth.
11. Galluogi mwy o reolaeth i brifathrawon dros gyllideb eu hysgol.
12. Diddymu y consortia addysgol rhanbarthol.
13. Sicrhau cynrychiolaeth etholedig cymheiriaid o’r proffesiwn addysgu ar Gyngor y Gweithlu Addysg i sicrhau ei fod yn atebol yn iawn