17/11/2015

Gwynoro am fod yn ymgeisydd dros Canolbarth a Gorllewin Cymru

"Mae un o wleidyddion amlwg Cymru o'r saith a’r wyth degau am roi ei enw yn yr het i sefyll am set yn y Cynulliad.

Yr enw? Gwynoro Jones cyn aelod seneddol a chipiodd hen set Gaerfyrddin oddi wrth Gwynfor Evans. Llafur oedd ar y pryd ond nawr yn aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae’n ceisio am le ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru. Fe ddywedodd wrth Golwg bod

“Angen ei wneud yn Senedd (Y Cynulliad) go iawn gyda llawer mwy o ddadlau agored o faterion y Genedl. Credai gallaf gyfrannu at hynny. Yn olaf 'rydwyf wedi bod o blaid Senedd go iawn ers y 70 degau.

Wedi bod allan o wleidyddiaeth ers 1992 wrth arolygu ysgolion hwn fydd y cyfle cyntaf ac o bosib yr olaf i wireddu breuddwyd oes i fod yn Aelod ohono ac i sicrhau fod llais Gorllewin a Chanolbarth Cymru yn cael ei glywed yn gryf.”

Dipyn o dasg, bydd cystadleuaeth frwd yn ei blaid am le ar y rhestr yma ond rhaid peidio ag anwybyddu siawns gwleidydd sydd wedi bod yn y gêm ers tro.


Gareth Hughes Gohebydd Golwg yn y Cynulliad: